Hanes Cristnogaeth yng Nghymru (I)
Dwi wedi penderfynu cyhoeddi cyfres fer ar Hanes Cristnogaeth yng Nghymru ar fy mlog. Dim byd dwfn, jest ychydig o ffeithiau syml. Bydd y rhan fwyaf o'r stwff yn dod allan o lyfr Gwyn Davies 'Golau Gwlad – Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000'.
200 OC – 400 OC
Y drydedd Ganrif (200 OC)
Gellid bod reit sicr fod Cristnogaeth wedi cyrraedd Cymru erbyn y flwyddyn 200. Yn ystod y ganrif hon fe adroddwyd fod Aaron a Julius yn Nghaerllion wedi eu merthyru am fod yn Gristnogion.
Y bedwaredd Ganrif (300 OC)
Proffesodd yr Ymerawdwr Cystennin yn 312 ei fod yntau bellach yn Gristion. Roddodd hyn hwb i Gristnogion ar draws yr Ymerodraeth gan gynnwys Cristnogion ym Mhrydain. Erbyn 314 roedd digon o drefn ar yr Eglwys ym Mhrydain i anfon cynrychiolwyr i Gynghorau Eglwysig yn Ngal (sef, yn fras, Ffrainc heddiw, wele y map i'r ochr). Roedd Cristnogaeth yng Nghymru ar y pryd ar ei chryfaf yn yr ardaloedd lle roedd dylanwad Rhufain ar ei gryfaf. Noda Gwyn Davies na ellid gwybod i sicrwydd beth oedd union natur ffydd na threfn Cristnogaeth Cymru yn y cyfnod ond noda ei bod hi'n bur debyg fod Cristnogaeth y Cymru yn nodweddiadol o Gristnogaeth a geid yng ngweddill yr Ymerodraeth Rufeinig.
Y bumed Ganrif (400 OC)
Gadawodd byddinoedd Rhufain ym mlynyddoedd cynnar y bumed ganrif. Er i'r dylanwad Rhufeinig bylu ar Brydain roedd Cristnogaeth yr ynys wedi parhau i fod yn 'Rufeinig' ei naws. Wedi i'r Rhufeiniaid adael dechreuodd lwythau eraill ymosod ar Brydain, roedd y llwythau yma yn baganaidd ac o ganlyniad fe losgwyd eglwysi ac erlidiwyd arweinwyr y ffydd ym Mhrydain. Wedi dweud hynny roedd y bumed ganrif yn gyfnod o lewyrch i Gristnogaeth yng Nghymru, roedd deffroad crefyddol ar gerdded yn Ngal dan arweiniad Martin o Tours (wele y Llun i'r ochr) ac fe ledodd y dylanwad hwnnw i Gymru. Dyma oedd dechrau 'Oes y Seintiau' yng Nghymru.
Mwy yn y postiaid nesaf.
No comments:
Post a Comment