21.11.05

'Spot the Welshmen' ar y tren

Pump o'r gloch, rhuthro nol i Bantycelyn ar ôl fy narlith i hel fy mhethau yna lawr i'r dre i ddal trên 5.30 i Gaerdydd. Un o'r rhesymau roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i'r siwrne yma oedd i weld y golygfeydd, ni sylweddolais tan fy mod i'n aros ar y platfform y byddai hi'n dywyll cyn i'r daith ddechrau hyd yn oed! Roedd yna lwythi o bobl yn aros am y trên, amwni mae'r trên 5.30 ydy'r trên mynd adref o'r gwaith – a gan ei bod hi'n ddydd Gwener dyna oedd y trên gadael am y penwythnos hefyd.

Fe aeth cymal cyntaf y daith yn iawn, yr unig beth mae'n werth nodi oedd y diffyg dewis brechdanau oedd ar y gert (y dewis oedd Tiwna Sweetcorn neu Tiwna Sweetcorn – dewisais i ddim byd!) a hefyd yr Americanes uchel-eu-cloch oedd yn eistedd gyferbyn oedd yn gadael i bawb wybod ei bod hi'n gweithio'n tu hwnt o galed ar ei gradd Rheolaeth Fusnes gan bentyrru llyfrau a ffeils o flaen iddi ar y bwrdd.

Wedi oediad hir yng Nghroesoswallt (signals yn chwarae fyny mae'n debyg!) dyma ni yn cyrraedd yr Amwythig (wele lun o'r orsaf hynafol i'r dde) bum munud wedi i'n cyswllt ni i Gaerdydd adael. Ond fel mae'n digwydd, ac yn ffodus i ni, roedd y trên yna wedi cael ei ddal yn ôl yn ogystal ac roedd ugain munud yn hwyr. Yna 30 munud yn hwyr. Yna 40 munud yn hwyr. Ond yn y diwedd cyrhaeddodd 45 munud yn hwyr. Roeddem ni'n rhythu erbyn hyn – dywedodd un o'r Rheolwyr Tew ei bod hi'n -5!

Felly dyma'r trên i Gaerdydd yn cyrraedd, eisoes yn or-lawn. Cyfuniad o bobl yn mynd adref am y penwythnos ond hefyd pobol yn mynd lawr i weld y gem rhwng Cymru a De-Affrica oedd ar y dydd Sadwrn. Ni chawsom ni le i eistedd hyd Cwmbrân (tua hanner y daith) ond drwy sefyll i fyny ar ben y trên roedd hi'n gwneud “Spot the Welshmen” yn gem gymaint a hynny'n haws.

Yr incident cyntaf oedd y ciw i'r tŷ bach, dyma foi yn marchio i flaen y ciw a gofyn i mi yn Gymraeg (er ein bod ni yn Lloegr) os oeddwn ni yn y ciw. Roedd y ffaith iddo fo siarad Cymraeg yn gyntaf gyda mi yn Hereford yn awgrymu ei fod, o bosib, wedi bod yn yfed. Wedi iddo sylwi mae Cymro oeddwn ni (a dod i delerau gyda'r ffaith nad oeddwn yn mynd i'r Gem, dwi dal ddim yn meddwl ei fod wedi deall hynny) dyma fi'n cael clamp o hyg yna fy ngwahodd draw at ei griw ef i gael “cwpwl o Lagers”. Tra oedd e yn y lle chwech llwyddais i ddianc.

Roedd yna un criw anhygoel o swnllyd ar y trên, fe ddaeth yna rai seddi gwag wrth eu hymyl felly dyma fi ac Andras yn mentro. Er mawr syndod i mi (not) darganfyddais fy nghyfaill o'r ciw tŷ bach yn eu canol; wedi iddo esbonio i weddill y bois ein bod ni'n Gymry dyma ni'n cael gwaedd fawr dros o trên i gyd. Y cam nesaf wrth gwrs oedd iddo estyn y “Cwpwl o Lagers” addawodd i mi yn gynt – dwi'n casáu Lager felly dyma fi'n meddwl am esgus i wrthod yn sydyn. Dyma fi'n esbonio mod i'n gyrru (er mod i ar drên, fe'm credodd!). Nid oedd Andras mor sydyn yn meddwl am esgus felly derbyniodd, ond pan drodd ein cyfaill i edrych ffordd arall dyma Andras yn taflu eu botel e i'r bin cyfagos.

Dyma ni'n cyrraedd Caerdydd am 10.15 gyda'r Cymry hoffus yn cyfarch pawb, ie pawb, roedden nhw'n sefyll mewn rhes wrth y drws yn siglo llaw pawb oedd yn dod oddi ar y trên fel air hosteses. Siwrnai digon difyr yn wir.

2 comments:

Nwdls said...

Be ddudish i am y nytars!! Swnio'n wir fel siwrnai wyllt. "Dwi'n gyrru" wir!

Diolch am y rhif ffon gyda llaw.

Siwrnai dren "Calon Cymru" hoffwn i ei wneud rhywbryd. Mae hi fod yn wych o ran golygfeydd, ond gei di fawr gwell nac Aber i'r Bermo ar y tren, ar fore clir oer.

Rhys Llwyd said...

O ie, Calon Cymru fasa'n dda! Rhedeg o'r Amwythig i lawr trwy'r canol i Abertawe.

Fe wnaeth Dogfael y trip yma unwaith - wele ei adroddiad yma.

Rhan 1
http://dogfael.blogspot.com/2005/08/o-aberystwyth-i-abertawe-mewn-naw-awr.html

Rhan 2
http://dogfael.blogspot.com/2005/08/parhaur-daith-i-abertawe-2005-08-09.html

Yr unibeth sy'n dal fi nol ydy bod Supersaver Return yn £39 !