19.11.05

Tren i Gaerdydd

Dwi'n mynd lawr i Gaerdydd heno – recordio Bandit gyda Kerdd Dant, dwi'n chwarae gitâr fas, disgwyl ymlaen. Dwi hefyd yn disgwyl ymlaen i'r daith i lawr oherwydd dy ni (Fi ac Andras) yn mynd ar y trên! Dwi rioed di gwneud y daith yma ar drên o'r blaen, ond gan fod ni'n cael costau teithio yn ôl gan Bandit pam lai na theithio ar y trên yn lle'r Traws Crwban!

Wele yn y llun gwrs y daith.

Cewch adroddiad llawn o fy mhenwythnos yn y ddinas (a'r daith drên) ddydd Llun.

3 comments:

Aled said...

Rhys y ffwl, os ti'n cael costau teithio dos a'r car bob tro - mi wnei elw felly os gei di daliad teg (tua 40c y filltir sy'n gyffredin = £80 o elw ar daith i Gaerdydd ac yn ol o Aber) O fynd ar y tren gei di mond dy arian yn ol!

Rhys Llwyd said...

Nid felna ma Bommerang yn gweithio - ti jest yn llenwi dy gar cadw y dderbyneb a'i anfon iddyn nhw a gei di werth dy dderbyneb yn ol.

Dim elw felly.

Problem fach arall ydy bod dim car genai :-)

Nwdls said...

Dwi'n ffeindio'r Crwban yn well na'r tren, yn arbennig yn y gaeaf. Sdim rhaid dod oddi ar y Traws ac aros mewn sdesion rhynllyd am 45 munud, ac mae'n cymeryd tua'r un faint o amser beth bynnag. Ti'n gallu cael nytars yn dy fwydro di ar y ddau...