24.12.05

Fy Hobiau Od

Mae gwyliau yn gyfnod pan fedr dyn wneud pethau bach mae e wedi bod eisiau ei gwneud ers tro ond ym mhrysurdeb gwaith neu dymor coleg dydy rhywyn ddim yn cael y cyfle i wneud rhai pethau. I Mam un o'r pethau yna debyg fydd ymosod a thacluso fy stafell i neu stafell Cynan i Dad o bosib mae adeiladu cawell fawreddog newydd yn yr ardd aiff a'i amser (oedde chi'n gwybod fod PapLl yn cadw adar?).

Wel wythnos yma dwi wedi dechrau gwneud dau beth dwi di bod eisiau gwneud ers tro ond heb gael amser tan nawr.

Y cyntaf oedd gosod Linux ar fy hen Laptop. Fe brynesi gopi 'arbennig' (hynny yw 'limitted' nid 'brilliant') o'r cylchgrawn 'Linux Format' ddechrau'r wythnos. Roedd hwn yn rifyn oedd yn dod gyda chopi llawn o Linux SuSE gyda chyfarwyddiadau manwl iawn sut i'w osod ar eich cyfrifiadur. Roedd wedi ei anelu at bobl fel fi oedd yn wyryfod i fyd Linux. Gyda llaw i chi sydd ddim yn gwbod beth yw Linux mae'n system weithredu (operating system) cod agored sy'n medru gweithio fel platform amgen i Windows (ac MAC OS X o ran hynny). Mae'n system wych i rheini sydd wedi hen alaru ar Microsoft ond sydd efallai ddim am wario pres ar beiriant Apple MAC. Mae modd gosod y Linux, fel y gwnes i, ar eich hen gyfrifiadur. Wedesi uchod mod i wedi dechrau gwneud dau beth, wel dwi heb orffen gosod Linux eto oherwydd mod i heb ei gal ar y We, ac a bod yn onest mae'n hollol ddi-werth heb gysylltiad i'r we – ond i ddwyn idiom Saesneg – dwi'n gweithio arni (sic).

Yr ail beth oedd ehangu'r llyfrau sydd wedi eu catlogion ar fy nghyfri LibryThing sydd yn dangos pigion ar golofn dde y blog hwn. Hen ma dwi wedi dechrau catlogio llyfrau sydd o ddiddordeb i mi (yn bennaf rhai ar Gymru neu Christnogaeth gan adael y llyfrau coginio!) yn stydi Dad. Buesi wrthi am rhyw awr hen a dim ond 1 silff allan o rhyw 20 lwyddesi i fynd trwyddi.

Des i ar draws sawl llyfr Efengylaidd Saesneg diflas. Ymysg yr uchafbwyntiau (tafod yn y foch) mae:
Prayer Basic Training gan Warren Wiersbe
The Genius of Puritanism gan Peter Lewis
What About Origins? Gan Monty White


Ymysg y darllen hawdd mae (tafod yn y foch eto):
The Mystery of Providence gan John Flavel
A Serious Call to a Devout and Holy Life gan William Law

Ymysg y brawychus roedd:
Dare to Discipline gan James Dr Dobson (ie llyfr am ddisgyblu plant!)

Un cysur wrth ddarganfod rhai o'r rhai isod yn stydi fy nhad oedd gweld y degfed neu'r 15 dudalen wedi plygu. Hynny yw roedd e wedi diflasu gyda nhw neu yn anghytuno gyda nhw mae'n debyg yn fuan wedi'r ychydig dudalennau cyntaf!

Wedi dweud hynny des i ar draws rhai llyfrau gwerthfawr, diddorol a phrin iawn megis:

The water that divides: The baptism debate gan Donald Bridge
Yr Ysgol Sul gan W. Ambrose Bebb
Bywyd a Marwolaeth Theomemphus gan William Williams Pantycelyn

Fel wedesi dim ond un silff dwi di mynd drwyddi hyd yma. Dwi'n disgwyl mlaen i fynd drwy'r gweddill....

...ia dyma be ma hogia sy ddim yn leicio pel droed yn neud yn gwylia.

No comments: