19.12.05

Tymor 7/9 wedi gorffen

Y blogiad cyntaf ers 12 diwrnod! Wedi bod yn brysur efo traethodau a ballu. Llawer wedi digwydd yn y cyfamser gan gynnwys ail ddechrau defnyddio fy nghyfri Flikr – llawer i adrodd felly.

Ym mhythefnos olaf y tymor roedd gennai dri traethawd i roi mewn, 2000, 3500 a 4500 – ie 8,000! Yn wyneb y mynydd yna roedd hi mynd i fod yn gamp jyglo yr holl giniawau 'dolig, gig Rag UMCA yn ogystal a phrotest dda yn goron ar y cyfan. Eu gorchfygu a gwnes!

Canslwyd NAWS Rhagfyr oherwydd ein bod ni wedi methu cael band; mae trefnu gigs yn fusnes anodd fel arfer – o ran trefnu ac yn ariannol. Ond roedd gig UMCA ddigwyddodd wythnos cyn diwethaf yn eithriad. Trefnwyd y cyfan o fewn awr – bwcio Dave Mansell i neud y PA, Bob a Frizbee i chwarae a Nia 'Chwaer Meilyr Hedd' Meleri i DJ'o. Ystyr Rag ydy 'Raise and Give' (dwi wedi bathu enw mwy addas i UMCA 'Car' sef 'Codi a Rhoi' ond mar gair 'car' yn rhyw gyfleu cariad hefyd) Oce dyna ddigon o fod yn sentimental. Ath y gig yn gret ac fe godwyd rhyw £700 i Rag sef yr hyn sydd fel arfer yn cael ei godi mewn blwyddyn – da iawn i Sdif a Gwen am drefnu.

Ymlaen nawr i nos Fawrth dwytha – cinio Nadolig Pantycelyn. Dyma ffenomenon diddorol a rhyfedd. Fel y gwelwch o'r lluniau mae Cinio Nadolig Pantycelyn fel Hogwarts (Ysgol Harry Potter) with Alcohol. Dyma drefn arferol y noson.

3.00 – pawb yn rhuthro mewn i roi ei henw ar eu sedd.

6.00 – pawb yn cyraedd y ffreutur

6.05 – y gwin wedi dechrau llifo a pawb yn waldio y byrddau efo'i llwyau – lot o gwyl!

6.15 – prif gwrs a mwy o daro bwrdd

6.25 – K.O's cyntaf yn cael eu cario allan

6.30 – pwdin a mwy o daro bwrdd

6.35 – bois y ffynon a'r cwm yn dechrau taflu bwyd ar ei gilydd gyda'r 'top table' yn y canol!

6.45 – yr areithiau yn dechrau; pob araith yn gorffen gyda pawb yn canu'r emyn 'I bob un sy'n ffyddlon' yn amserol does neb byth yn cyrraedd yr ail bennill sy'n adrodd “...meddwdod fel Goleiath”!

7.00 – araith y siaradwr gwadd, Dewi Rhys (Duff Pobol y Cwm). Yr unig beth gwnaeth e oedd gwneud dynwarediadau o gymeriadau eraill Pobol y Cwm; bizare ond eitha doniol.

7.15-7.30 – y cinio yn dod i ddiwedd ansicr wrth i'r 'arweinwyr' gario mlaen yn codi canu ond y rhanfwyaf o bobl wedi cael digon a criwiau fesur tipyn yn sleifio allan.

8.00-9.30 – Cwps, mwy o ganu.

10.00-1.00 – Marine am ddisgo Celt[aidd]!

Mae'r cyfan yn swnio yn hollol stereotypical ac yn nodweddiadol o'r hyn fydde chi'n cysylltu a Phantycelyn OND wir i chi dim ond 2 waith y flwyddyn mae hyn yn digwydd a rhaid mi ddeud fod o yn medru bod yn hwyl 2 waith y flwyddyn.

Ysywaeth; dydd Mercher dim llawer o bobl o amgylch y lle oni bai amdana i a phawb arall oedd a thraethawd erbyn y dydd Iau. Bore Dydd Iau – protest hir ddisgwyliedig gyntaf y tymor. Dwi wedi bod wrthi yn ddiwyd yn ysgrifennu dogfen bolisi/trafod UMCA ar Goleg Ffederal Cymraeg. Rhyw fath o brotest i lansio hwna oedd dydd Iau; cerddwyd o Banty i swyddfa y Cynulliad a cyflwyno copi fan yna wedyn draw i'r Hen Goleg a chyflyno copi i Noel Lloyd. Yn ddiddorol y nos Fercher bu pobl allan yn paentio sloganau yn garped dros yr hen Goleg; dyma'r trio cyntaf i hyn ddigwydd ers tair blynedd heb i mi fod yn rhyw ymwnelo a'r peth neu o leiaf a rhyw syniad pendant pwy fu wrthi. Er mod i wedi gwneud pethau tebyg o'r blaen yn gweld ei rinwedd fel rhan o ymgyrch y tro yma roedd yn gamgymeriad pwy bynnag fu wrthi – rhywun di-glem nad oedd yn deall yr ymgyrch. Rhaid i dor-cyfraith gael ei ddefnyddio yn dactegol; baswn ni'n hoffi trafod tactegau, os oes rhai ganddynt o gwbl, gyda'r rhai fu wrthi wythnos diwethaf.

Wel dyna ni. Tymor arall prysur yn y Coleg wedi dod i ben – yfed llawer o goffi drud, Rioja (Faustino a Vino Mara) a bwyta Caws am bythefnos nawr!

2 comments:

Rhys Llwyd said...

hoho - lwcus iawn :)

Ifan Morgan Jones said...

Peintio slogannau ar yr hen goleg yn afiach. Ceisio achub ein diwylliant drwy ddifwyno ein hanes, ife? Twpsyn pwy bynnag wnaeth, mae na ddigon o adeiladau hyll o'r 70au yn Aber bydde cot o baent yn gwneud lles iddyn nhw.