Rhagluniaeth - yn ol i'm tre enedigol?
Dyma fi'n cael munud i adrodd hanes fy nydd Sadwrn i chi. Roedd hi'n ddiwrnod od, difyr, gwych a rhagluniaethol.
Deffro am wyth a dal y bws 9.30 i'r brotest Deddf Iaith yng Nghaerfyrddin. Fe aeth i siwrne yn grêt, sy'n rhyfeddol oherwydd dwi ddim yn un am y bysiau fel arfer. Dyma ni'n cyrraedd tua 11.15 yn barod ar gyfer y brotest am 11.30. Fe aeth y brotest a'r rali yn rhagorol, Adam Price yn sefyll allan – seren. Wedi i'r brotest ddirwyn i ben dyma fi'n dechrau crwydro rownd y farchnad Ffrengig oedd yn y dre – ges i Bratvurst enfawr a hefyd olifiau a thomatos wedi sychu – hyfryd.
Dau o'r gloch a draw a mi i gyfarfod Senedd y Gymdeithas. Roedd y bws yn gadael am 5 nol i Aberystwyth a dyma fi'n dechrau poeni a fyddai'r cyfarfod Senedd wedi gorffen mewn pryd. Gyferbyn a mi ar y bwrdd oedd Dewi Snelson (gweler y llun), cymeriad fyddai'n troi allan i fod yn un o brif gymeriadau drama'r diwrnod! Gofynnais i Dewi pe caw ni lift nol i Aber ac fe gytunodd. Felly dyma Dewi, fi, Huw Lewis a DML yn taro yn ôl am Aberystwyth yn i Fiesta bach.
Wedi i ni gyrraedd Aberystwyth fe gofiais fod Dewi yn byw ym Mangor. Roeddwn ni wedi hanner meddwl mynd i fyny i'r Gogledd oherwydd roedd Gwenllïan a'i rhieni fyny yn Nhrefor. Roeddwn ni wedi anghofio am y syniad oherwydd nid oedd y bysys a'r trenau yn rhedeg ar amser cyfleus OND bellach roeddwn yn eistedd mewn Fiesta oedd yn mynd i Fangor. Felly dyma fi'n holi Dewi os fyddai modd i mi aros yn y car yr holl ffordd i Fangor.
Wrth i ni adael Aberystwyth (bellach heb Huw Lewis a DML) dechreuodd y golau bylu ar y Fiesta. Yn ffodus roeddem ni'n pasio Comins Coch felly dyma fi'n dweud wrth Dewi i droi mewn at dy fy rhieni i ni gael parcio ac yna iddo fynd mewn i ffonio'r gwasanaeth recovery. O fewn rhyw hanner awr daeth boi o Davmore Garage, Talybont; datgelodd y newyddion trist na fyddai'r Fiesta yn mynd unman pellach hyd y byddai'n newid yr Altenator fore Llun. Dyma fy nhrip i Fangor yn ymddangos fel pe bae hi ar ben!
Ond roedd gan Dewi “Gold Cover”. Roedd y math yma o wasanaeth yn cynnig mynd a chi a'r car adref - “I Fangor?” gofynodd Dewi, “Dim problem” dywedodd y mecanic, “Oes lle i fi?” dywedais innau, “Wrth gwrs” dywedodd ef!
Felly awr yn ddiweddarach dyma Dewi, Fi a'r Fiesta yn teithio tuag at Fangor ar gefn lori recovery!
Roedd rhieni Gwenllïan mewn cyngerdd ym Mangor ac cyrhaeddom ni wrth i'r cyngerdd ddirwyn i ben. Dyma Aled (tad Gwen) yn fy mhigo fyny o'r stesion ac yna draw a ni i bigo Afryl (mam Gwen) o dy eu ffrindiau Geraint a Carolin (a wyr rhywun os yw'r sillafiad yma'n gywir?). Wedi i ni gyrraedd eu tŷ ym Mangor Ucha dyma Geraint yn ein gwahodd i fewn.
Roedd Geraint Tudur yn un o'r o'r bobl hynny roeddwn ni wedi eisiau cyfarfod ers tro. Ef oedd gweinidog Gwenllïan yn Ebenezer, Caerdydd am flynyddoedd ac mae Gwen yn cyfeirio ato droeon mewn golau cynnes a ffafriol. Ar wahân i adnabod ei fab Dafydd, un o'r dynion ifanc anwylaf dwi'n ei adnabod, storïau Gwen ac hefyd yr ymwybyddiaeth ei fod yn perthyn i ysgol ddiwinyddol gyfoethog ei Dad, doeddwn ni rioed wedi cyfarfod Geraint.
Roeddwn ni'n betrusgar i ddechrau, oherwydd fy mod yn gwneud gwaith ymchwil ar ei dad doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai ei ymateb ag ystyried ei fod ef yn ysgolhaig ei hun. Roedd yn gwybod eisoes am fy ngwaith ymchwil ar ei dad, rhywsut. Ta beth dyna ble fuesi yn siarad am ei dad, yn siarad am bethau academaidd ac yn trafod Cristnogaeth ein cenedl hyd oriau man y bore. Roedd hi'n grêt medru trafod fy nymuniad flwyddyn nesaf i wneud gwaith ymchwil pellach ar ei dad – mae mynd i astudio yn yr adran Ddiwinyddiaeth ym Mangor flwyddyn nesa bellach (wedi dwys ystyried) yn bosibilrwydd real; fy newis cyntaf hyd yn oed.
Dwi wedi bod mewn penbleth beth i wneud blwyddyn nesaf ers tro. Dwi wedi teimlo yr ysfa/alwad i wneud ymchwil i fewn i Tudur Jones ers tro ond wedi bod yn y niwl ynghylch a pha Brifysgol ac ym mha adran i geisio'r gwaith. Bellach mae'r niwl wedi clirio.
Pe taw ni wedi dal y bws 5 nol i Aberystwyth baswn ni heb fynd yn y car gyda Dewi. Pe tae car Dewi heb dorri lawr baswn ni ddim wedi cyrraedd Bangor am 11.30 a chyfarfod Geraint Tudur. Mae rhagluniaeth yn beth od ydy ond mae hefyd yn fendigedig.
A fyddaf yn troedio yn ôl i fy nhref enedigol?
“Rhagluniaeth fawr y nef mor rhyfedd yw....”
1 comment:
Do fi draw am wersi!
Rhys
Post a Comment