Cenedlaetholdeb, Cenedlaetholdeb a Chenedlaetholdeb
Wedi gorffen fy arholiadau bellach ac yn disgwyl mlaen i'r tymor newydd! Mae'n nhw'n dweud mae pwynt mynd i brifysgol ydy ehangu eich gorwelion. O ran union leoliad dwi heb ehangu rhyw lawer ar fy ngorwelion oherwydd i mi aros yn Aberystwyth. Ond yn syniadaethol dwi wedi ehangu fy ngorwelion. Dwi wedi treulio amser yn astudio ôl-fodernwyr a modernwyr fel Marx, Hegl ac Arent sy'n mynd yn gwbl yn erbyn, wel i raddau helaeth, fy Nghristnogaeth. Ond dwi'n meddwl fod hi'n bwysig mod i wedi treulio amser yn dod i ddeall y gelyn fel petae. Trienu na fyddai mwy o anffyddwyr seciwlar yn treulio amser yn astudio Cristnogaeth.
Wel, eironi mawr y busnes yma o fynd i'r Brifysgol i ehangu eich gorwelion yw mod i, yn fy nhymor olaf yn y brifysgol yn gorffen yn union ple ddechreues yn astudio Cenedlaetholdeb a Christnogaeth!
Y modylau fydda i yn eu dilyn tymor yma fydd:
1. Dosbarth, Cymuned a Chenedl – syniadaeth wleidyddol Gymreig gyda Richard Wyn Jones
2. Cenedlaetholdeb mewn theori a realiti gyda Anwen Elias
3. Traethawd Hir – syniadaeth wleidyddol R. Tudur Jones
Ar ôl chwysu gymaint dros lyfrau athroniaeth Hegl a theorïau Cysylltiau Rhyngwladol dwi'n meddwl mod i'n haeddu gorffen fy ngradd yn darllen pynciau sydd o ddiddordeb penodol i mi.
No comments:
Post a Comment