19.1.06

Y Grand National

Ro ni yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw, wel dyna ble dwi di bod ers bod nol, a dyna ble fyddai am o leiaf wythnos arall. Mae o'n le bach od am sawl rheswm. I ddechrau maen nhw'n edrych yn dy fag di ar y ffordd i fewn ond ddim ar y ffordd allan. Felly os wyt ti am drio dod a bom i fewn paid a thrafferthu ond os wyt ti am fachu dyrnaid o lythyron Saunders at Gwynfor fel anrheg i dy ffrind dim problem!

Un peth bach doniol arall i adrodd am y Gen. Darganfyddais ddoe fod gan y di-Gymraeg dalfyriad am y Gen hefyd. Mae rhai yn ei alw'n 'Nat' ond dyma oedd brawddeg ddoniolaf 2006 mor belled, mae o eiddo Rubben sy'n byw gyda Dereg (a.k.a. MC Peryg)

“I saw Rees Lloyd and his bird in the National today” - in the 'National' medde chi!

Ho ho!

2 comments:

Nic said...

Welais i'r hen Rees hefyd. Oedd caffi y Gen fel cynhadledd blogwyr a maeswyr Cymru. Fi oedd yr unig person do'n i ddim yn ei nabod.

Rhys Llwyd said...

cynhadledd bloggwyr wir!

Arna - ai weld fe fedrai newud rwan

Rhys