28.2.06

Anwyd a Chan i Gymru

Mae'r cyfnodau rhwng un blog a'r llall yn mynd yn hwyach fyth dyddiau yma! Dwi wedi bod yn y gwely tipyn dros y dyddiau diwethaf, wedi cael rhyw anwyd trwm/ffliw bach – nesi hel digon o egni i neud PA, fel yr addewais, yn gig Cymru X/Cymdeithas yr Iaith lawr yn Gyfyrddin nos Sadwrn. Dwi'n rhyw ddyfaru mynd nawr oherwydd fod hynny wedi parhau fy nghyfnod o wella, dyliw ni fod yn holliach erbyn nawr ond dwi dal wedi blino ac er fod y trwy'n yn gliriach dwi dal i gael pwliau hyll o beswch bob hyn a hyn – dwi'n reciwbiratio yng Nghomins Coch nawr. Fy ngobaith yw dychwelyd i Bantycelyn fory.

Daeth yn amser i mi gydnabod i fwy na chylch bach o gyfeillion mod i ar banel pledleisio Can i Gymru leni! Hillerious! Dan y drefn newydd mi fydd gan y panel yma 50% o'r bias pledleisio dros yr ennillydd. Dwi'n disgwyl mlaen oherwydd fe ymddengys eleni am y tro cyntaf y bydd y rhan o'r diwidiant cerddorol Cymraeg dwi'n troi ynddi yn cael ei gynrhychioli ar Can i Gymru. Mae Can i Gymru ers blynyddoedd wedi cynrhychioli rhywberth ffals, rhywbeth sydd ddim yn bodoli tu allan i focs y teledu. Eleni dwi'n meddwl, a gobeithio, bydd hi'n wahanol. Dwi ddim yn siwr pwy arall sydd ar y panel yma (mae yna 30 i gyd), mi fydd typicals S4C fel dwi'n deall Owen Powell, Bethan Elfyn, Ian Cottrell etc... wedyn bydd gen ti bobl 'wahanol' am y tro cyntaf fel Dyl Mei ac wedyn amwni bydd gen ti gwpwl o bobl hollol random sy ddim yn enwog fel fi! Wel ddim yn enwog i'r 95% o siaradwyr Cymraeg sydd ddim yn darllen barn!

Un o'r cymhlethdodau sydd genai heddiw ydy trio gweithio allan sut dwi mynd i gyraedd Afan Lido lle mae'r recordio yn digwydd nos Fercher! Mae yna orsaf dren yn Port Talbot – pa mor bell ydy'r orsaf yna o'r ganolfan ei hun? Wn i ddim.

No comments: