16.2.06

Gwenno a'r deffroad

Dyma'r neges cyntaf ar y blog ers tro. Nid prysurdeb sydd wedi fy atal y tro hwn, mae'r bythefnos diwethaf wedi bod yn weddol dawel. Yn bennaf diffyg dim byd diddorol i'w hadrodd. Ond wythnos yma gyda charchariad Gwenno Teifi mae stori fawr i'w hadrodd.

Bore dydd Llun yn y llys yng Nghaerfyrddin roedd hi'n fraint gweld gweithredu di-drais yn gweithio ar ei orau. Mae trefn llysoedd y Goron wedi ei lunio i ddal chi allan h.y. I ddal pobl sy'n ceisio dianc. Ni all y drefn ddelio gyda gweithredwyr gwleidyddol sy'n cydweithredu fel yr oedd Gwenno. Nid oedd yr ynadon am anfon Gwenno i'r carchar roedden nhw am iddi dalu yr iawndal o £200 – ac doedde nhw methu amgyffred y syniad fod Gwenno yn dewis y gosb waeth er egwyddor. Wrth eu hanfon i'r carchar fe gollodd y Goron – i ddyfynnu Obie One Kanobie “If you strike me down i will become more powerfull than you can posibbly imagine”. Dyna ddigwyddodd gyda Gwenno yn sicr.

Ers dydd Llun mae myfyrwyr Aber wedi eu tanio – o'r diwedd! Wrth groesawu Gwenno nol ddoe trodd mwy o bobl fyny nag sydd wedi troi fyny i brotest ers tro. Mae hyn yn argoeli'n dda i'r brotest fawr dros Goleg Ffederal ar y 14/15 o Fawrth!!

No comments: