25.3.06

Dafydd, Gwawr a'r Dating

Dwi wedi fy ysbrydoli gan ddau hen gyfaill i bostio blog! Cyn sôn am y cyfeillion a'r cymhelliad dyma brif ddigwyddiadau fy mywyd (an)anturus ers y postiad diwethaf!

Rali Genedlaethol, Y Spice Merchant a'r Speed Dating

Fe aeth y rali genedlaethol lawr yng Nghaerdydd yn cwl iawn. Doedd y niferoedd ddim yn wych OND fel y tybiais roedd y cysgu tu allan yn ddigon i wneud y stori i'r cyfryngau. Ymysg uchafbwyntiau y brotest oedd mynd i ganfod swper yn y Bae nos Fawrth. Dyma fi, Rhodri Glyn, Iwan Rhys a Hywel yn crwydro rownd y Mermaid Quey – o'n blaen roedd y Spice Merchant – i bobl sy'n gyfarwydd gyda'r Bae mi fyddwn chi'n gwybod eisoes am barodrwydd y Spice Merchant i'ch cwrso am oes er mwyn eich cael chi i fynd i fwyta yn ei fwyty. Gan ein bod ni'n cysgu tu allan (ac felly heb le 6) roedd rhaid i ni wrthod gwahoddiad y Spice Merchant, wel a bod yn onest fe netho ni droi rownd a cerdded ffordd arall ER fod e yn meddwl ein bod ni'n ei ddilyn. Yna bang, dyna fe'n dod ato ni o gyfeiriad cwbwl wahanol – dyna ddianc i mewn i far swanc y Terra Nova, stêc a gwin coch – i'r dim.

I fyny a ni i ganfod bwrdd, eistedd i lawr ac yna sylwi fod pawb arall yn yr ystafell yn gwisgo bathodynnau a'r gair 'Smootch' arnynt. Dyma ni'n edrych ar ein gilydd yna heb ddweud gair dyma ni'n codi a'i heglu hi lawr staer. Ar y ffordd lawr y grisiau dyma'r barman yn dweud “Sorry, forgot to tell you; there's a speed dating session upstairs tonight”!!! Mam bach. Ysywaeth, dyna ganfod lle lawr staer archebu'r bwyd a'i fwynhau.

Penwythnos prysur

A dyna ni, wedi bod yn gwneud gwaith coleg ers y rali – wedi cwpla y traethodau sydd i mewn cyn y Pasg bellach. Maen benwythnos Cyf Cyff Cymdeithas yr Iaith, felly ma gig heno a'r cyfarfod fory. Yn ogystal ma Kenavo yn chwarae am y tro cyntaf ers oes pys nos fory ym Mhontrhydfendigaid. Es i brynu ceblau MIDI ddoe felly gai ddefnyddio'r synau synth cwl newydd am y tro cynta nos fory.

Fy Nghyfeillion

Ac yn olaf, gair am y cyfeillion sydd wedi fy ysbrydoli i bostio. Mae Gwawr Esyllt a Dafydd Ellis yn flogwyr tramor. Y ddau ohonyn nhw wedi neu ar fin mynd dros y mor o Gymru annwyl. Ac er mawr syndod i mi, wrth ddarllen eu blogiau am y tro cyntaf heddiw, mae'r ddau ohonyn nhw yn cynnig dolenni i fy mlog i – ddim yn od yn ei hun OND ar un Dafydd dim ond fy mlog i sy'n cael linc ac ar un Gwawr dwi ond yn un o dri. Fflatterd.

Ta beth – dwi'n siwr gwnew chi fwynhau eu blogiau:

Gwawr – adrodd ei thaith drwy dde America

Dafydd – adrodd ei fywyd newydd yn Seville

No comments: