13.3.06

Llywyddiaeth UMCA a phrotest arall

Dyma gyfle am air bach arall! Mae'r etholiadau wedi pasio erbyn hyn, Menna Machreth fu'n fuddugol. Awyr ychydig bach yn sur rownd Pantycelyn erbyn y diwedd ond dwi'n obeithiol wnaiff pawb, o ba bynnag garfan, anghofio am y gwahaniaethau, derbyn y canlyniad ac uno er lles UMCA ac achos Addysg Gymraeg nawr.

Ddydd Mawrth byddwn ni'n dychwelyd i Gaerdydd i gysgu tu allan y Senedd mewn protest dros Addysg Gymraeg. Wn i ddim faint o fyfyrwyr y deith OND dwi'n credu fod Cysgu tu allan y Senedd yn ddigon o stynt yn ei hun felly bydd niferoedd ddim yn broblem, ond yn amlwg gobeithio deith tipyn.

Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn ariannu asesiad opsiynau i weld beth yw'r ffordd orau ymlaen gyda Addysg Gymraeg yn y sector Uwch. Yn ein tyb ni yr unig opsiwn yw Coleg Ffederal Cymraeg, a dyna fyddwn ni'n ei bwysleisio nos Fawrth a bore Mercher.

Dyna ni am y tro, os na gai amser i bostio eto cyn mynd i Gaerdydd maen debyg y cewch chi adroddiad a lluniau yn y postiad ar ôl i mi ddod yn ôl.

No comments: