2.4.06

Cymru X

Dyma fi nol yng Nghomins Coch a thymor arall ym Mhantycelyn wedi dod i ben! Mae'n braf bod nol adref – gwely cyfforddus, ffrij llawn bwyd, carped sy ddim fel papur tywod a dwr glan yn dod trwy'r tapiau. Ond fyddai ddim yn gweld Gwenllïan rhyw lawer dros y dair wythnos nesaf oherwydd ma genai draethodau i'w gwneud (i. Syniadaeth Wleidyddol Tudur Jones ii. Beirniadaeth Pennar o Bietistiaeth Efengylaidd – dau draethawd dwi'n ysu i'w cychwyn!) a ma hi bant i Iwerddon gyda Chôr Ger y Lli – so dydy hynny ddim yn cwl.

Senedd Cymdeithas yr Iaith

Diwrnod o drafod Gwalia heddiw. Bore ma Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, ces i fy ail-ethol wythnos diwethaf fel Swyddog ymgyrch 'Coleg Aml-Safle' (a.k.a. Coleg Ffederal Cymraeg). Mae'r Asesiad opsiynau mlaen ar hyn o bryd sef yr ymchwiliad 'cyhoeddus' i weld beth yw'r model all ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Colegau orau. Bu i mi gyfrannu i'r ymchwiliad ar ran Urdd Myfyrwyr Aberystwyth (bydd Ffred Ffransis yn gwneud ar ran y Gymdeithas) – roedd fy nhystiolaeth yn 5,500 o eiriau felly gwell fyddai peidio ail adrodd fan hyn! Ond yn fras roedd pob model heblaw am Fodel 4 sef y 'Coleg Ffederal Cymraeg' yn sylfaenol ffaeledig. Ond yn anffodus, beth bynnag fydd swmp y dystiolaeth i'r ymchwilwyr, prin dwi'n gweld Jane Davidson, y gweinidog Addysg, yn mabwysiadu Model 4 fel polisi.

Cyfarfod Cyffredinol Cymru X

Amser cinio i fyny a fi i'r campws i Gyfarfod Cyffredinol Cymru X – mudiad ieuenctid Plaid Cymru. Fy mwriad oedd eistedd yn y cefn a gweld beth oedd yn digwydd. Ond cyn i mi gael cyfle i ddweud 'Statws cenedlaethol o fewn Ewrop' roeddwn ni'n pregethu at bawb am bwysigrwydd buddsoddi arian strwythurol Ewropeaidd mewn datblygiadau is-adeiledd tymor hir i Gymru yn hytrach na'i wastraffu ar brosiectau bach tymor byr!!! Cyn pen dim roedd hi'n ddiwedd y cyfarfod a finnau wedi cael fy hun wedi ethol ar bwyllgor cenedlaethol Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru.

Cael fy ethol i bwyllgor Cymru X

Ydw i wedi cyfaddawdu felly?! Can i Gymru un munud; cymryd swydd mewn plaid wleidyddol y munud nesa – mae'r 6 mis diwethaf wedi'm troi i yn sefydliadol iawn! Efallai wir ond dwi am ddweud rhyw fymryn am y Blaid. Dwi wedi bod yn euog o besimistiaeth yn ddiweddar (o bosib ar y blog – ddim yn cofio) ynglŷn a Phlaid Cymru. I ddweud y gwir dwi'n meddwl fod yna besimistiaeth yn rhemp trwy aelodau 'traddodiadol' y Blaid fel fi a fy rhieni o ran hynny. Os ydych chi wedi cael llond bol ar eich plaid wleidyddol mae yna 2 opsiwn gyda chi:

1. Ymuno a phlaid arall
2. Cwffio oddi mewn iddi i roi siâp ar bethau

Mae'n debyg y byddai rhai yn ychwanegu trydydd categori sef troi at grwpiau pwyso. Gwir – ond gan nad ydw i'n anarchydd dwi yn meddwl fod ymladd o fewn plaid Wleidyddol yn angenrheidiol yn ogystal a phrotestio poblogaidd. Nawr beth bynnag ddywed Guto Bebb a Brooks am y Ceidwadwyr Cymreig plaid wedi ei wreiddio yn Llundain ydy hi ac yn ychwanegol i hynny dydw i ddim yn arddel gwerthoedd cymhedrol-dde. Does dim ail blaid genedlaethol gan Gymru – plaid Brydeinig sy'n digwydd cael agwedd/polisïau weddol iach ar hyn o bryd ydy'r Ceidwadwyr Cymreig – dim byd mwy. Ond fe all newid rwy'n cyfaddef.

Ydw i, ac wyt ti ddigon ar y chwith i Cymru X?

Nawr yr hyn sydd wedi fy ngwneud i yn llugoer tuag at Blaid Cymru yn ddiweddar ac hefyd tuag at Cymru x i ddechrau yw'r busnes 'Sosialaeth' yma. Nawr wn i ddim sut fyddech chi'n diffinio sosialaeth. Ond i fi prun bynnag mae sosialaeth yn golygu 'Cyfiawnder' – dydw i ddim yn bell iawn ar y chwith oherwydd rwy'n deall natur ddynol ond dwi hefyd a digon o ffydd i gredu fod modd newid llawer er lles pawb yn y gymdeithas. Dwi'n meddwl mae'r lle gorau i Blaid Cymru fod, a Chymru X o ran hynny yw ychydig i'r chwith o'r canol – crowded ground meddai rhai, wel ie ond mae hynny am reswm da oherwydd mae dyna ble mae egwyddorion ac ymarferoldeb yn medru cyd-ddawnsio i wneud gwahaniaeth. Cer di fwy i'r chwith a dydy gweithredu'r polisi ddim yn ymarferol a cer di i'r dde a ma dy egwyddorion di wedi rhoi mewn i gyflwr dyn. Er fod Bethan, un o staff Cymru X a chadeirydd y Cyf. Cyff. tipyn mwy i'r chwith na fi rhaid mi ddweud mod i wedi teimlo heddiw ein bod ni wedi ymryddhau ein hunain o'r jargon chwith trendi yma.

> Nid y Rhyfel yn Irac oedd y drafodaeth heddiw ond sut mae datblygu Economi Cymru gyda arian Ewropeaidd.

> Nid Cardiau Adnabod fu'r gri heddiw ond ariannu addysg fel eu bod hi'n haws ac yn fwy atyniadol i Gymry aros yng Nghymru i astudio.

Pethau go-iawn wnaiff wahaniaeth go-iawn i Gymru. Dwi'n credu felly fod yna le i fi a phobol fel fi o hyd yn y Blaid os ydych chi wedi cael llond bol ar glywed Plaid Cymru yn mynd mlaen am Irac ac ishe clywed mwy am y ddadl Economaidd dros Annibyniaeth er enghraifft dewch gyda Cymru X i ail feddiannu Plaid Cymru – nid er ein lles ni, nac er lles y Blaid OND er lles Cymru.

3 comments:

Huw Psych said...

Braf ydi cael rhyw fath o ohebiaeth o'r peth CymruX yma yn ddiweddar.

Dwi'n cytuno efo chdi ar busnas Plaid, petae nhw'n blaid Genedlaetholgar byddai'n llawer gwell, ond ma hi'n ceisio rhoi sawl gwynab iddi ei hun, a di hyna ddim yn gweithio!
"If you can't beat them join them!" Gobeithio y gweithith hyna yn dy achos di!

Hmm, cri ddestlus iawn ar y diwedd, fydd raid i fi feddwl amdani...er, mae'n debyg y bydd raid gneud rywfaint mwy o berswadio arnaf ma arna i ofn!! ;o)

Rhys Llwyd said...

Dwi ddim yn meddwl bod gobaith genai i dy gonfinsio di - mi wyt ti Fonwesyn!

;-)

Huw Psych said...

Dwi'n dod i Aber dydd Sadwrn gyda llaw, cei drio perswadio adeg honno os tisho!!

Paid a nechra i ar y busnas Plaid 'ma...ych-a-fi!!