24.5.06

Bowie yn y Beeb

Un o fy hoff artistiaid Saesneg ydy David Bowie. Mae ei gerddoriaeth yn anhygoel - maen roc gret ar un llaw ond mae hefyd yn gerddoriaeth 'wahanol' gymhleth. Amwni mae'r artist cyffelyb yng Nghymru ydy Jarman - nid fod y gerddoriaeth yn debyg ond y ffaith fod y ddau yn artistiaid roc sy'n cynnig rhywbeth amgen. Nawr mod i wedi darganfod YouTube maen debyg y bydd llawer o bostiau y dyfodol yn cynnig fideo difyr i chi.

Edrychwch a gwrandewch ar y glasur yma. Gwrandewch ar y cerddorion (sesiwn maen debyg) maen nhw'n wefreiddiol - ac mae Bowie yn cwl iawn hefyd:

2 comments:

Dyn Gwyn Gwirion said...

Un o fy hoff ganeuon Bowie! Dwi isio hwnna wedi ei chwarae yn fy mhriodas.

Diolch am hwnna!

Rhys Llwyd said...

Diolch (neu beidio) am y sylw 'od' yna Dafydd Glyn! Cadw sy sylwaau od i dy flog dy hun tro nesa ;-)