26.7.06

40,000+ o eiriau i bARN

Wrth adeiladu www.rhysllwyd.com (gwefan dwi wedi ac yn bwriadu cyhoeddi mwy o'm erthyglau) dwi di sylwi mod i wedi ysgrifennu o leia 40,000 o eiriau i'r cylchgrawn bARN ers i mi ddechrau ysgrifennu i'r cylchgrawn yn 2002. Pan ddechreais i fy nghlofn gerddoriaeth roeddwn i dal yn yr ysgol ac mae hynny'n dangos. Mae'n ddiddorol sut mae fy marn ar bethau wedi newid dros y bedair blynedd diwethaf. Ond yn fwy trawidol ydy pa mor wahanol mae'r sin roc Gymraeg ei hun wedi tyfu, datblygu ac aeddfedu ers 2002.

Ta beth gobeithio gwnew chi fwynhau edrych dros rai o'r erthyglau.

...a cofiwch brynnu'r rhifyn cyfredol o bARN yn steddfod er mwyn darllen yr erthygl ddiweddaraf.

2 comments:

Aled said...

Hei Rhys, mae'r wefan yn edrych yn dda... heblaw am un peth - y lliwiau! Ar y dudalen erthyglau barn yn enwedig, mae'n anodd iawn i ddarllen ac yn brifo'r llygaid!

Rhys Llwyd said...

Ti'n iawn. Dwi newydd edrych ar y wefan ar sgrin CRT (sef be sgin ti yn swyddfa debyg?!) ac mae o'n anodd iawn i'w ddarllen. Mi wnes y dylunio ar sgrin TFT ac roedd o'n iawn ar hwna. Wnai newid y lliw rwan.