Esbonio'r Pafiliwn Pinc
Ers i'r 'Steddfod ddadorchuddio y Pafiliwn Pinc dwi wedi chwerthin i fi fy hun ar dwpdra a hulldod y Pafiliwn.
OND
Wele daeth esboniad am y dewis lliw egsotic yn y Western Mail heddiw. Mae'n rhan o'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth am Ganser y Fron.
Fe drodd y syniad twp o gael pafiliwn pinc i fod yn syniad hollol wych i godi ymwybyddiaeth i achos teilwng iawn.
3 comments:
Os oeddet ti wedi trafferthu darllen y stori wreiddiol ym mis Mawrth (ac ar faes-e) mi fyddet ti'n gwybod hynny o'r cychwyn 'chan. Arbed arian mae nhw, o ddefnyddio pafiliwn sydd ar gael ym Mhrydain yn hytrach na un sy'n cael ei fewnforio o'r Iseldiroedd.
haha
Wel, roeddw ni rhy brysur yn gweithio at fy ngradd i ddarllenm y newyddion bryd hynny ;-)
Wel, syniad pa 'run ohonoch sydd yn gywir 'te?
Mae eglurhad y Western Mail o dynnu sylw at gancr y frest yn un da iawn.
Post a Comment