1.9.06

Gadael Interpol

Ma pawb sy'n fy adnabod i'n weddol yn gwybod erbyn hyn mod i 'di gadael yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth i ddilyn ymchwil bellach yn Adran Ddiwinyddiaeth Bangor. “Newid anarferol” dywedodd Merfyn Jones wrthai ond nid yw Gwleidyddiaeth a Diwinyddiaeth yn gymhathiad mor anarferol a hynny yng Nghymru, i'r gwrthwyneb. Tan rhyw hanner canrif yn ol roedd y ddau wedi cyd-gerdded yn esmwyth braf ers canrif a mwy yng Nghymru.

Ta beth, fe soniaf ryw dro eto am y resymeg o newid Prifysgol ac adran a beth yn union fydd amcan fy ymchwil ond am nawr hoffwn son ychydig, rhyw dalu gwrogaeth o ddiolch o bosib, i'r adran rwy'n ei adael. Pan yn yr ysgol roeddwn i'n reit sicr ers TGAU (o leiaf) mai Gwleidyddiaeth oeddw ni am 'studio yn y Brifysgol. Oherwydd part-Dislecsia/part-Cenedlaetholdeb ynddai roeddwn i'n bendant am astudio cymaint medrw ni o fy ngradd yn fy iaith gyntaf, sef y Gymraeg wrth gwrs. Doedd ond un dewis felly sef Aberystwyth. “Gwallgo”, “Cul”, “Gehtto”, “Boring” dyna rai o'r termau y taflwyd ataf am aros yn Aber – cywir i raddau ond roedd dewis y cwrs a cyfrwng iaith yn bwysicach i fi na chael 'y profiad ehangach'. Fe ges i 'brofiad ehangach' – roedd y cuddio mewn gwrychau oriau man y bore yn osgoi yr heddlu tra'n cyflawni rhyw stynt wleidyddol yn dipyn mwy o brofiad na dod yn gyfarwydd a thafarnau swish rhyw dre Prifysgol Yippy yn Lloegr 'mwn.

Nesi ddim unrhyw aberth yn academaidd wrth fyny aros yn Aber er mwyn astudio yn Gymraeg, i'r gwrthwyneb yn llwyr. Yn lwcus i mi roedd yr adran oedd yn cynnig y nifer uchaf y gorsiau Cymraeg yn y byd hefyd yn digwydd cael ei chyfri fel un, os nad yr adran Wleidyddiaeth fwyaf blaenllaw yn y byd. Rhaid canmol staff dysgu Cymraeg yr adran – Elin Royles, Richard Wyn Jones, Anwen Elias, yr arwr hwnw Roger Scully (Sais sydd bellach yn darlithio'n Gymraeg) a'r enigma Yr Athro Howard 'Kant' Williams. Yn olaf hoffwn nodi fod Gwennan Creunant yn rhan bwysig iawn o'r tim hefyd – hi sy'n gweinyddu a hi gymaint ar darlithwyr eu hunain sy'n brwydro i warantu fod y ddarpariaeth Gymraeg yn parhau ac yn datblygu.

Rhaid mi gyfaddef er fod Elin Royles yn gret (dwi'n cofio Johnny Panic yn chwarae yn y Cwps wythnos y glas pan oeddw ni yn y flwyddyn gyntaf, roedd ganddyn nhw gan am Elin Royles ond i achub embaras o flaen y glas fyfyrwyr fe siarsiodd Elin, y darlithydd, y band i newid yr enw a'r gytgan i Barry Boyles!) doedd ei dileit hi ddim yn gor gyffwrdd gyda fy nileit i. Dysgodd Elin gyrsiau ar systemau fiwrocrataidd (iawn) y Cynulliad a Datganoli. Elin hefyd oedd yn cymryd ein seminarau ar Wleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, dim bai ar Elin o gwbl OND dyma oedd yr arch-fodiwl diflas.

Dwi'n cofio cael y traethawd Gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd nol, “Nesdi i'm cystal yn hwn naddo” medde Elin; ac yn finnai'n esbonio mod i heb fwynhau a dal gafael ar y gwaith ac Elin yn deud “Do nesi sylwi bo chi'n edrych braidd yn bored”. Bron mor wael ag Howard Williams yn deuthai fod e ond wedi rhoi marc uchel i fi oherwydd mae yn un i oedd yr ola i gael ei farcio a bod e di rhoi marciau isel i bawb ac yn teimlo'n isel ei ysbryd a bod e am godi ei galon a rhoi marc uchel i rywyn, a fi trwy lwc oedd yr yn 'codi calon'!!!! (Ac yntau'n cil wenu a chwerthin dan ei anadl, un o'r cymeriadau hynny 'dy chi ddim yn siwr os oedd e o ddifri neu beidio.)

Erbyn y drydedd flwyddyn (lle oeddem ni i bob pwrpas yn medru arbennigo ar be bynnag y licie ni) fe es i mewn i ochr mwy athronyddol/syniadaethol yr adran yn hytrach na gwleidyddiaeth fiwrocrataidd/ymarferol. Ces flas wrth astudio'r athronwyr gyda Howard Williams a ces yn nanedd i mewn go iawn yn y tymor olaf drwy astudio syniadaeth R. Tudur Jones, Pennar Davies a Seimon Brooks (Dwi'n gweld yr un ar Seimon reit adlonianol a ma hwn yn un wnaiff yn sicr ddim mynd pellach na llygaid y marcwyr!).

Rhaid dweud gair am Richard Wyn Jones, 'Dicw', selling point mawr yr adran o safbwynt addysg Gymraeg! Mae o'n ddarlithydd gwych ac yr un mor garesmataidd ac mae o ar y teledu gyda un gwahaniaeth. Heb fod ar raglen y BBC mae o dipyn fwy onest am bethau, gwleidyddiaeth a phobl ac mae o eitha entertaining i ddeud y gwir. Un o'r llinellau doniolaf o'r galon ddaeth allan yng nghyfres darlithoedd y flwyddyn olaf (ac a gyhoeddwyd yn Llais y Lli felly dim sgwp i'r blog fan yma) oedd: “Ma na rai pobl nad sy'n credu fod modd trafod syniadaeth wleidyddol metaffisegol yn y Gymraeg – y term am hyn yw bol*cs”. Yr unig beth sy'n drist ydy'r ffaith mae dim ond un modiwl am yn ail flwyddyn maen dysgu oherwydd ymrwymiadau gweinyddol o fewn yr adran. Serch hynny mae ei gael o allan ar ddiwrnodau agored a ffeiriau Addysg Gymraeg yn glamp o fagned a thwlsyn marchnata i Addysg Gymraeg.

Yr hyn sydd wedi fy nhiclo yn ddiweddar yw clywed fod ambell un oedd yn fy ngwatwar am aros yn Aber i astudio yn yr adran yn lle mynd i un o Brifysgolion 'mawr Prydain' bellach wedi cofrestru i wneud Cwrs Meistr yn yr adran leni! Mae'r rhod yn troi. Dwi'n siwr y gwnew nhw fwynhau.

Pam i Fangor?... yn fuan ar y blog hwn

4 comments:

Rhys Wynne said...

Gobeithio y byddi di'n mwynhau ym Mangor. Tydi'r lle (y dref a'r myfyrwyr Cymraeg) ddim hanner mor radical ag Aber (er dwi ddim yn gwbod beth sy'n mynd ymlaen yn yr adran ddiwinyddol yno - efallai ei fod yn radical dros ben yno!)

Rhyfedd yw'r honiadau o gulni ayyb mae Cymru Cymraeg yn ddioddef am astudio yn Gymraeg yng Nghymru. Ydi Saeson sy'n dewis astudio mewn prifysgolion yn Lloegr drwy gyfrwng y Saesneg yn dioeddef o'r un honiadau ysgwn i?

Mari said...

Dwi'n meddwl bo fi'n gwbod at pwy ti'n cyfeirio yn y paragraff dwytha...gafodd o le felly? Chwara teg :-)

Rhys Llwyd said...

haha. Wel Chwadan roedd na griw ohonyn nhw felly dwi ddim am enwi ond rwyt ti wedi dallt hi ;-)

Rhys Llwyd said...

Erfynaf faddeuant am fynd yn dawel. Dwi wedi bod yn gweithio 9-5 ers dechrau Mehefin ac wedi gorffen ddoe. Dyna oedd i'w gyfri am dawelwch y Blog a'm tawelwch yn fy amryw ymrwymiadau gwirfoddol eraill. Allai ddim deall wir y bobl yma sy'n cael amser i gynnal blog bywiog a gweithio llawn amser.

Mae'r "argraffiadau bachog" yn ol!