22.9.06

Cynhadledd Ddiwinyddiaeth ac Athroniaeth II

[parhad]

Wedi darlith RWJ roedd y Diwinyddion a'r Athronwyr yn gwahanu. Y sesiwn nesaf i'r athronwyr oedd Walford Gealy yn darllen papur yr oedd Dewi Z wedi bwriadu ei draddodi. Ond lawr llawr â fi gyda'r “diwinyddwyr” eraill i glywed Gwilym H. Jones (GHJ) yn traddodi darlith a'r Bregethau Emrys ap Iwan. Cyn mynd lawr roedd yna beth amser i finglo; daeth Euros Wyn Jones draw atom ni'r bois ifanc mewn llais o banig (dychanol) a datgan yn y negydd fod yna 'fwy o athronwyr yma nag oedden ni wedi gobeithio...' bron y disgwyliaswn iddo ddweud “German Tanks out number us 3 to 1 sir”. Ta beth – i lawr â ni ond i gyfarfod Euros Wyn Jones a joc fach arall o'i eiddo – wrth ofyn i Dafydd Jenkins (y cyfreithiwr enwog sy bellach yn ei nawdegau) os oedd ef yn mynd i sesiwn y Diwinyddion ac yna clywed ateb positif ymateb Euros yn ddigon ysgafn oedd “Ac felly chwi a fyddo gadwedig!”. Dim ond gweinidogion all gael get awe gyda'r fath gabledd ysgafn a gwneud i ddyn chwerthin.

Ta beth, pregethau Emrys ap Iwan. Dywedodd GHJ fod Emrys yn gweld pwysigrwydd pregethu, dywedai mai drwy ddarllen yr oeddem ni'n dod i wybod pethau ond mai drwy gyfrwng y bregeth yr oeddem yn dod i deimlo pethau. Dywedai Emrys mae pregethu fel y pregethai'r Iesu oedd gwir bregethu Efengylaidd. Dywedai mae pregethu agos y dylai'r pregethwr wneud nid ymhél mewn diwinyddiaeth gymhleth. Ym mhellach haeria fod llawer yn dewis bod yn ddiwinyddion er mwyn osgoi bod yn Gristnogion go-iawn. Dadl GHJ oedd fod y daliadau hyn yn gwbl ysgrythurol a'u bod wedi eu colli erbyn heddiw. Credai Emrys fod rhaid pregethu yn y dull mwyaf addas i'r gynulleidfa – e.e. Ni fyddai bwletin wedi ei ysgrifennu i'r radio yn addas ar gyfer rhaglen newyddion teledu. Nododd GHJ fod hyn yn neges i ni heddiw fod angen i bregethau fod yng nghyfrwng gryno y teledu nid yng ngeirio cyflym y radio. (Gafodd y pwynt yna dipyn o amen's!)

Dywedwyd fod pedwar o ieithoedd Ewrop ar flaen ei fysedd ac y deuai a llên a hanes Ewrop i fewn i'w bregethau nôl yng Nghymru – pwysleisiodd GHJ nad gwneud hyn er mwyn dangos ei ddawn a'i ddysg a wnaeth Emrys ond yn hytrach defnyddio ei wybodaeth fel cyfrwng i wneud pwynt mewn pregeth. Cyfaddefodd GHJ nad oedd llawer o athrawiaethau yn dod trwodd yn ei bregethau ond fe roes lawer o le i gyfiawnder cymdeithasol er nad mewn geiriau ac arddeliad mor gryf ac a wnâi yn ei ysgrifau yn y wasg. Cydnabu Emrys fod pregethu am y Groes yn denu'r tyrfaoedd (yn ei gyfnod) a bod hynny wedi peri i bregethwyr ganolbwyntio ar bethau (y Groes) a llefydd (Calfaria) gan anghofio rhoi sylw i berson Iesu oedd ar y groes.

Roeddwn i'n gwybod fod Emrys ap Iwan (er ei asbri a'i ddylanwad pwysig yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol) braidd yn wishi washi ar ei ddiwinyddiaeth ond o hyn allan yn y ddarlith fe aeth y wishi woshrwydd dros ben llestri ac fe gollodd Emrys dipyn o'm cydymdeimlad neo-Galfinaidd innau. Nododd GHJ fod Calfin yn cael sawl bonclust gan Emrys am roi pen-Arglwyddiaeth Duw yn y canol lle dylai cariad Duw wedi bod yn y canol – honna Emrys fod Calfin yn "rhy Iddewig” (!) Credai Emrys mae eisiau cael eu boddhau nid eu lleshau oedd y Cymry gan bregeth – dyma weld Emrys felly yn pregethu er plesio nid er lles eneidiau ei braidd – rhywbeth tu hwnt o beryglus i bregethwyr wneud yn fy marn i. Roedd Emrys, yn ôl GHJ, yn credu mewn Purdan ond fe gydnabu Emrys ei hun nad oes sail athrawiaethol i hyn – dyna fe'n saethu ei hun yn ei droed a steil! Rwyf yn deall yn awr, wedi'r ddarlith digon difyr hon gan GHJ, pam nad wyf wedi clywed llawer am Emrys ap Iwan yn y cylchoedd Cristnogol a Diwinyddol uniongred rwyf wedi bod yn troi ynddyn nhw am 21 mlynedd cyntaf fy mywyd – ar wahân i'w angerdd dros Gymru a chyfiawnder cymdeithasol dwi ddim yn meddwl mod i wedi colli fawr o ddim o beidio bod yn gyfarwydd â syniadau Emrys ap Iwan. Er mod i'n edmygu ei safiadau ar rai pwyntiau (megis gwrthwynebu sefydlu capeli Saesneg mewn aadarnleoedd Cymreig) yn ddiwinyddol roedd yn lobsgows o ddyn go-iawn.

Mwy am y gynhadledd yn y postiad nesaf...

[Lluniau Top i'r Gwaelod: Gwilym H Jones, Euros Wyn Jones (ail o'r chwith) ac Emrys ap Iwan]

No comments: