23.9.06

Cynhadledd Diwinyddiaeth ac Athroniaeth III

Os wedi diflasu ac am neidio i'r wers, ala Sam Tan, mae o ar y diwedd mewn bold.

[parhad]

Wedi cinio roedd yna sesiwn 'O'r silff lyfrau – rhai cyfrolau ar fugeilio' gyda Euros Wyn Jones, John Gwilym Jones ac Elwyn Richards. Penderfynais gymryd cinio hir a methu'r rhan yma o'r gynhadledd. Cyrraedd nol tua tri a gweld un o fy nghydnabod yn dod allan yn siglo ei ben mewn syndod ac yn rowlio ei lygaid a dweud “Dwi rioed di clywed dim byd fel yna o'r blaen; oedd y pethe oedd ****** yn dweud yn ultra-Liberal.” Doedd pethau ddim am gymryd cam nol at ddiwinyddiaeth ysgrythurol glasurol chwaith oblegid y sesiwn nesaf oedd 'Trwyddo ef, a chydag ef ac ynddo ef...' gan Harri Pritchard Jones – ie Catholig! Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i'r sesiwn yma oherwydd doeddwn ni rioed di clywed Catholig o Gymro yn siarad am faterion diwinyddol o'r blaen.

Er bod sgwrs HPJ yn ddigon difyr a hefyd gonest o ran ei gyffes bersonol ef roedd y cyfan mor... wel athronyddol. Ffydd syml yw Cristnogaeth yn y bôn ond llwyddodd HPJ i'w or-gymhlethu – doedd y cwestiynau astrus ar y diwedd ddim yn help chwaith. Ddim mod i am ddilorni HPJ yn bersonol ond ni wnaeth ei ddarlith unrhyw les i'r rhagfarn oedd gennyf fel protestant; i'r gwrthwyneb, cadarnhawyd fy rhagfarnau ac fe;i trowyd yn farn bendant – mae symlrwydd efengyl gras yn rhagori ar gymhlethrwydd Eglwys Rufain a'i phwyslais sacramentol. Maddeuwch i mi am rhefru, ac hefyd o gulni maen siŵr, ond dwi'n tybied a byddai treulio peth amser y prynhawn hwnnw dros athrawiaethau llythyr Paul at y Rhufeiniaid wedi bod yn fwy llesol i'n heneidiau ni gyd.

Ymlaen a ni cyn mynd adref i gyfarfod Busnes yr adran ddiwinyddiaeth. Dyma be oedd agoriad llygad. Roeddwn ni wedi clywed sôn am gyfarfodydd busnes enwog eglwysi ac enwadau o'r blaen (mae'n cael ei ddychanu yn wych yn un o straeon byrion Dylan Iorwerth) ond heb gael pleser o fod mewn cyfarfod o'r fath tan y diwrnod hwn. Roedd hi nawr yn 4.30 a hyd yma doedd y diwrnod ddim gwahanol i ddiwrnod o ddarlithoedd 'seciwlar' neu ddarlithoedd y byddai unrhyw adran academaidd yn rhedeg – yna fel mellten o nunlle dyma pawb yn rhoi pen lawr a gweddïo cyn i'r cyfarfod ddechrau. Ces i sioc a hanner! Ond yna wrth gwrs fe gofies i – cyfarfod diwinyddiaeth oedd hwn ac yn ein gwlad gwaraidd ni diwinyddiaeth = Cristnogaeth. Ond wrth gwrs yr hyn oedd wedi fy synnu oedd cyn lleied o Gristnogaeth fyw iachusol (i'r enaid) y cawsom gydol cwrs y dydd ond eto fod y trefnwyr oll yn gweddïo ynghylch gweithgareddau'r dydd – doeddwn i ddim digon ewn i holi os oedden nhw wedi anghofio gweddïo cyn y cyfarfod llynedd (joc!)

Ta beth – canlyniad y cyfarfod busnes tawel ar y naw oedd fod Dafydd Tudur am gael ei wahodd fel prif siaradwr flwyddyn nesaf ac bod Andras, Rhodri a fi yn gyfrifol am y sesiwn brynhawn 'O'r silff lyfrau...' Ac wele y coup mwyaf tawel a di ymdrech ac hefyd anisgwyliedig (a di ddewis mewn gwirionedd – roedd yr hen do wedi manteisio ar y cyfle i basio'r byc am y tro cyntaf mewn degawd neu ddwy maen debyg!) yn hanes y Gorllewin.

Wrth edrych nol dros y tri postiad yma dwi ddim wedi paentio'r gynhadledd mewn golau rhy lachar - maen bosib mod i wedi gwneud cam a hi. O ran ansawdd academaidd roedd hi'n ddiwrnod buddiol a difyr ond o ran dangosydd o gyflwr diwinyddiaeth fel cyfrwng moddion gras i ennill eneidiau yng Nghymru eto yna roedd gweld unrhyw obaith yn y sgyrsiau yn nesaf peth i ddim. Er gwaethaf y cwyno dwi ddim am ddenig a pheidio mynd yn ôl blwyddyn nesaf – rhaid dal ati a dal i guro. Rwy'n amau fod Euros Wyn Jones ac Elwyn Richards yn gwybod yn iawn beth oedden nhw'n ei wneud wrth wahodd Dafydd a ni i gymryd rhan flwyddyn nesaf – chware teg a diolch iddyn nhw am ddangos bach o asgwrn cefn.

Os am weld Cymru yn troi i Grist eto maen rhaid i ni gael tŷ y diwinyddion i drefn oherwydd pa iws ydy diwinyddiaeth farw a chithau am godi'r meirw'n fyw?

No comments: