Cyfeillgarwch Vs Cydwybod
Mae wedi bod yn benbleth i mi ddoe a heddiw. A wyt ti i ddilyn dy gydwybod a dadlau dy bwynt i'r pen ac o ganlyniad gelyniaethu pobl ac hefyd teimlo'n reit isel dy hun. Ynteu a ddylet ti frathu dy dafod a pheidio dilyn dy gydwybod ac eistedd yna yn dawel jest er mwyn cadw peth undod a chyfeillgarwch gyda gwrthrych dy anghytundeb? Ydy creu gelynion ar y ffordd yn rhan o daith dilyn cydwybod ynteu ydy'r creu gelynion yn brawf o dy fethiant i weithredu'n bragmataidd ar egwyddorion dy gydwybod?
Dwi wedi gweithredu ar sail fy nghydwybod (h.y. Roedd fy nghydwybod yn dweud wrtha i fod rhywbeth yn anghywir felly fe wnes i ddweud hynny) ond rhywsut nid yw fy nghydwybod yn dawel... rhyfedd o beth. Yr unig esboniad posib yw mod i'n torri fy nghalon mod i di upsetio pobl wrth siarad yr hyn oedd ar fy nghalon sy'n awgrymu mae'r ffordd rheitiach o weithredu yw cadw'r cyfan tu fewn OND wedyn ti ddim yn dilyn dy gydwybod ac felly dyna ni nol ar y dechrau wedi mynd rownd mewn cylch.
Wnâi ddim sôn am yr union achos yn gyhoeddus. Ond byddai'n ddiddorol darganfod sylwadau rhai o ddarllenwyr y blog. Dwi'n mynd i'r llyfyrgell efallai dof ar draws yr ateb!
3 comments:
Hmm, mae'n dibynnu ar y ffrind. Mae na rai fyddai wrth eu bodd gyda dadl dwi'n siwr.
Mae yna wahaniaeth mawr rhwng brathu dy dafod a dadlau rhwybeth i'r pen. Os di cyfaill yn dweud rhywbeth neu gyda safbwynt dwyt ti ddim yn gyfforddus gyda, yna dylet adael iddo/iddi wybod hynny dwi'n meddwl.
Byddai ffrind go iawn eisiau gwybod beth bynnag mae'n siwr, ond sdim rhaid mynd i ddadl anferthol am y peth os ti'n rhagweld byddai'n debygol o fod yn sdraen ar eich perthynas.
Diolch Rhys ond efallai y dyliaswn nodi fod y berthynas yn un broffesiynol a'r mater yn un o egwyddor foesol wleidyddol rhagofn fod pobl yn becso mod i rhwng cyfun gyngor ynglyn a perthynas a cyfaill mynwesol neu garwriaethus!
Dwnim pa mor berthnasol ydi hyn, ond ddois i ar draws "Politics as a Vocation" gan Weber yn ddiweddar.
Ma'n son am ddwy ffordd o feddwl...
Y gynta ydi "the ethic of ultimate ends" (sori, dim 'mynadd cyfieithu) - h.y. ymrwymiad llwyr i syniad heb ystyried canlyniadau'r ymrwymiad hwnnw (e.e. heddychiaeth sy'n arwain i ti beidio amddiffyn dy hun).
Wedyn ma'n son am "the ethic of responsibility", lle ti'n cymryd cyfrifoldeb dros ganlyniadau tebygol dy weithdredoedd.
Dwi'n meddwl mai dyna'r syniad beth bynnag - er fod Weber yn deud y dylai'r gwyddonydd cymdeithasol ddilyn yr ail syniad dwnim os dio'n gweithio ar lefel personol hefyd. Ta waeth, ma'n ffordd o ffurfioli'r broblem debyg.
Post a Comment