10.10.06

Diwrnod tawel yn y beeb...


Bore yma wrth fwyta fy nghorn flêcs ces i fraw! Dyma fi'n ymlwybro i wefan y BBC a dyna lle roedd llun blêr iawn ohonof ar y dudalen flaen. Mae'n rhaid bod hi'n ddiwrnod tawel iawn yn y newyddion heddiw...

Y stori ar wefan y BBC

Y stori ar wefan Prifysgol, Bangor

Rwy'n edrych yn flêr iawn oherwydd tynnwyd y lluniau mewn derbyniad ganol wythnos steddfod felly toeddwn ni ddim wedi siafio na chael cawod ers rhai diwrnodau! Mae stori reit ddoniol gennai am y derbyniad sy'n cynnwys ffigwr reit ddylanwadol ar hyn oedd yn dweud yn ei win OND gwell peidio ei rannu ar y blog – os hoffech wybod y stori dowch ata i yn y cig-fyd i ofyn.

Dwi wedi bod wrth y llyfrau ers dros wythnos nawr ac yn cael tipyn o hwyl yn ymgyfarwyddo a gweithiau rhai a fu'n ddylanwad ar R Tudur Jones. Gobeithio cai gyfle i roi nodiadau ar 'Uniformity: The Curse of Modern Life' gan Abraham Kuyper i fyny ar fy ngwefan cyn diwedd yr wythnos.

1 comment:

Huw said...

Llongyfarchiadau ar ennill yr ysgoloriaeth.