Protest Addysg Gymraeg
Neithiwr buesi yn cynrhychioli UMCB ym mhrotest Addysg Gymraeg UMCA. Mae'r Undebau myfyrwyr wedi torri'r cadoediad heddwch oedd mewn lle tra oedd yr Asesiad Opsiynau ymlaen dros y flwyddyn diwethaf. Methodd yr Asesiad ac awgrymu unrhywbeth tebyg i Goleg Ffederal Cymraeg ac maen amlwg fod pwysigion y Prifysgolion unigol ddim wedi rhoi unrhyw bwysau ar ymchwilwyr yr asesiad i ystyried y fath strwythur chwaith. Yn wyneb hyn mae'n rhaid i'r myfyrywr godi eto fel y gwnaethwyd dair mlynedd yn ôl pan oeddw'n i'n las fyfyriwr.
Hyd yma yr argraff rwy'n ei gael yw fod Bangor ag agwedd iachach at y Gymraeg nag Aberystwyth serch hynny dois ar draws y dyfyniad hollol warthus yma ar wefan Bangor ddoe fel rhan o swydd ddisgrifiad darlithyddiaeth Hanes Cymru rhan-amser:
The University has a bilingual policy, which is followed by the School, though in both the University and the School the working language is English
Onid yw'r dyfyniad uchod yn brawf o enau'r Prifysgolion eu hunain fod polisi iaith fan hyn fan draw ddim digon da ? Mae angen strwythur cadarn newydd!
Dyma 2 fideo a rhai lluniau o'r Brotest neithiwr ac hefyd y stori ar wefan y BBC. Roedd R. Tudur Jones yn gefnogol i'r myfyrwyr Cymraeg ym Mangor yn eu protestiadau yn y 70au - rwy'n hoffi meddwl y basai yn gweld rhinwedd yn y safiad yma hefyd.
No comments:
Post a Comment