Cofio am hoelio'r erthyglau
Heddiw mae'r byd seciwlar yn dathlu gwŷl Calan Gaeaf ond heddiw mi rydw i a Christnogion eraill dros y byd yn dathlu 'Dydd Diwygio' (Reformation Day). Ar yr union ddiwrnod yma yn 1517 (489 o flynyddoedd yn ôl ie?!) hoeliodd Matin Luther ei gan erthygl namyn pump ar ddrws Eglwys y Castell, Wittenberg, Yr Almaen. Dyma oedd dechrau'r Diwygiad Protestanaidd a sgubodd drwy holl genhedloedd Gorllewin Ewrop gan effeithio Cymru fwy nag – gellid dadlau - unrhyw genedl arall. Oni bai i Luther godi yn erbyn Eglwys Rufain y diwrnod yma, 489 o flynyddoedd yn ôl, mae'n ddigon posib na fyddai William Morgan wedi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ac o ganlyniad ni fyddai'r Iaith Gymraeg yn dal ei gafael o hyd! Dweud mawr medde chi, wel ie, ond dim ond blog yw hwn wedi'r cyfan.
1 comment:
Sylwad craff iawn Mr Elis
Post a Comment