20.11.06

Rali Fawr Ceredigion

Neithiwr fe fynychais Rali Fawr Ceredigion. Noson o 'fawl cyfoes' a hynny trwy gyfrwng iaith y nefoedd. Er mae mynychu eglwysi marw (mae'r gymdeithas a'r efengyl yn iach ond waeth i ni gyfaddau fod y cyfrwng wedi hen farw) Cymraeg ydw i fel rheol dwi'n troi mewn i Eglwys Saesneg San Mihangel o bryd i'w gilydd (rwy'n cyfyngu fy ymweliadau i unwaith y tymor rhag i mi fynd yn 'hooked' a mynd yno yn barhaol yn hytrach na mynychu eglwys Gymraeg). Felly dwi yn lled gyfarwydd a mawl cyfoes. Ond neithiwr oedd y tro cyntaf i mi gael mwynhau gwasanaeth o'r fath yn y Gymraeg. Yng ngeiriau un o aelodau'r Eglwys Efengylaidd; “Roedd yn chwa o awyr iach.”

Y drefn oedd bod band llawn (drymiau, dau gitâr, bas, piano) yn cyfeilio yn hytrach na'r hen organ araf yna sy'n gymaint o rwystr i foli drwy gân heddiw. Yn hytrach na gwasanaeth eistedd a chodi traddodiadol cafwyd rhes o emynau a chorysau ar ôl ei gilydd – yr hyn sy'n cael ei alw, yn gywir neu beidio, mewn gwasanaethau cyfoes fel 'Cyfnod o Fawl'. Yna wedi canu rhyw 8 emyn (swnio'n lot, ond credwch fi fe basiodd 8 emyn a band rownd eu pethau yn gynt nag 1 gyda'r hen organ araf) dyma air o weddi a rhannwyd y gair gan John Treharne. Ni chafwyd, fel y dywed Cynog Dafis 'gorthrwm o bregeth', dim ond gair o rhyw 15 munud - to the point. Roedd hyn eto yn chwa o awyr iach gan mod i wedi arfer a show of arms 45 munud o ddawn a dysg pregethwyr diwygiedig. Yna dwy emyn arall i orffen y cyfarfod.

Mae'n debyg y byddai'r Cristnogion traddodiadol yn mynnu ein bod ni wedi 'cyfaddawdu', neu wedi rhoi'r gerddoriaeth cyn y geiriau. Wel o ran cyfaddawdu cafwyd darlleniad, gweddi a sgwrs am yr efengyl fel mewn cyfarfod traddodiadol – dim ond y drefn oedd wedi newid. Ac o ran rhoi cerddoriaeth cyn i geiriau – yr hyn wnaethom ni oedd gosod trefniant newydd i hen emynau cyfoethog William Williams felly nid oes yna ddadl fan yna.

Mae capeli Cymraeg Aberystwyth wedi colli tipyn o aelodau i San Mihangel; diau fod yna elfen o Dic Sion Dafydd ym mhenderfyniad rhai a ffactorau eraill ar waith hefyd. Ond rhaid cyfaddau fod y cyfrwng cyfoes gymaint rhagorach i Gristnogion heddiw foli a bod yn ddefosiynol – hyd oni sylwith arweinwyr eglwysi Cymraeg ledled Cymru hyn colli mwy o aelodau i Eglwysi Saesneg, heb sôn am fethu cyrraedd y Gymru gyfoes Seciwlar, y gwnaiff eglwysi Cymraeg. Gobeithio i ni ddangos, trwy ragluniaeth a gras Duw, neithiwr fod gwasanaeth o'r fath yn bosib ac yn rhagori.

Wedi'r cyfan onid defnyddio diwylliant y dydd a diwylliant y deuthant ar ei draws a wnaeth apostolion yr Eglwys fore i gyfathrebu'r efengyl?

No comments: