21.11.06

Rhys Llwyd ap Cranmer

Mae fy Nhad wedi bod wrthi'n ddiwyd yn hel ei achau ers imi fod yn hogyn bach. Ei ddiddordeb mawr oedd dilyn achau ei Dad (fy Nhaid) oblegid cyfenw Ffrengig oedd ganddo sef Couture (newidiodd fy Nhad ei enw i Llwyd tua diwedd y saithdegau dwi'n meddwl). Darganfyddodd fod ein teulu ni yn Huwganotiaid Protestannaidd a ffodd i Loegr yn 1576 rhag erlid y Catholigion – rhai o'r Huwganotiaid cyntaf i gyrraedd Lloegr maen debyg.

Felly cyn y darganfyddiad ysgytwol diweddaraf yma roedd credentials Protestannaidd fy ngwaed eisoes wedi ei sefydlu OND dyma Nhad wythnos yma yn darganfod fod yr angori yn mynd ym mhellach oblegid wythnos yma darganfu fy Nhad fy mod i'n ddisgynydd uniongyrchol i Edmund Cranmer (Archddiacon Caergaint) a Thomas Cranmer (Archesgob Caergaint) – dau ffigwr cwbwl allweddol yn hanes Protestaniaeth ym Mhrydain. Fe ffodd fy hen (x15) Daid, Edmund, i'r cyfandir rhag cael ei erlid gan y Catholig Fari Waedlyd yn 1554 ac fe losgwyd fy hen (x15) Ewythr, Thomas, gan Fari Waedlyd yn 1556.

Dyma'r linach:

2 comments:

Anonymous said...

Diddorol iawn. Wy'n trio gwneud peth ymchwil ar goeden teuluol ochr fy nhad hefyd.

Wedi llwyddo mynd yn ôl cyn belled a

Ffred Ffransis (Frederick Sefton Francis)
-------------1948, Bae Colwyn-------------
--------------------------|--------------------------
---------Frederick Josiah Francis--------
-----------1882, Bow (Llundain)-----------
--------------------------|--------------------------
----------Alfred William Francis-----------
-1832, Mile End Old Town (Llundain-
--------------------------|--------------------------
----------------Alfred Francis----------------
-----(dim dyddiad na lleoliad geni)-----

Mae gen i ddiddordeb yn nharddiad y cyfenw Francis. O Ffrainc y daeth yn ôl y sôn, ond hyd yma dwi heb allu mynd yn bellach na'r uchod. Oes gen ti neu dy Dad unrhyw dips??

Elsie Hickey Wilson said...

I so not speak your language. Is it Welsh?
I am researching my lines of genealogy back to Edmund Cranmer Archdeacon of Canterbury.
Our ancestor, William Cranmer was in Long Island, NY, USA in 1680 m. to Elizabeth Carwithy, we believe she was Welsh.
I am looking for links back from William to Edmund. Do you know about sons of Edmund or lines that might help?
Elsie Wilson ehwilson@charter.net