27.11.06

Erchylltra Llafur

Yn ddiweddar dwi wedi dod i gasau y Blaid Lafur a'i unffurfiaeth o'r newydd. Ers darllen ysgrif gan Abraham Kuyper am Unffurfiaeth dwi wedi dod i edrych a'r y Blaid Lafur a'i brif ideoleg sef unffurfiaeth (nid sosialaeth na chyfalafiaeth hyd yn oed moi brif ideoleg) mewn goleuni ang-nhristnogol. Hynny yw bod y Blaid Lafur yn cynrhychioli ideoleg sy'n wrth-Gristnogol - ac fel y dadleua Kuyper gwaith yr un drwg yw unrhyw ideoleg nad sydd o Dduw. A dyletswydd y Cristion felly yw llefaru, gweithredu hyd yn oed, yn ei erbyn. Na, dydy Duw ddim yn ymhel a gwleidyddiaeth bleidiol OND mae yn ymhel ac ideolegau - yn hynny o beth gellid dweud ar goedd fod angen i'r Cristion ymateb a chondemnio ideoleg ffiaidd y Blaid Lafur o Unffurfiaeth.

Yr hyn wnaeth fy ysgogi i bostio'r postiad hwn oedd y stori YMA am ymosodiad hollol bathetig y Blaid Lafur ar yr SNP. Y linell anfarwol gan y Blaid Lafur oedd:

The Nationalists just don't get it. While children throughout Europe are learning Cantonese, they (the SNP) want to re-enact Culloden.


Hollol hollol pathetig.

4 comments:

Anonymous said...

Dyna tagteg nid yn unig Llafur ond pob un o'r pleidiau Prydeinig; portreadi'r SNP, a Phlaid Cymru fel pleidiau sydd unai yn byw yn y gorffennol neu'n hiraethu am oes a fu. Hwy sydd 'ddim yn ffit i bwrpas', pan mae e'n dod i ymosod ar cenedlaetholdeb Albanaidd neu Cymreig, yr un hen ddadl sy'n dod allan. Byddai rhethreg yn araith John Ried ddim wedi swno allan o le mewn araith yn y 1970au.

Rhys Wynne said...

Beth sy'n ddoniol am 'ddadl' y Llafurwr yw mai nhw a Unoliaethwyr eraill sy'n sownd yn y 1700'au.

Mae Jeff Rees yn gwmnud hwyl dros eu rhethreg nhw yn yr Alban

Huw said...

I ddeud y gwir, dwi hefyd yn casau 'Llafur Newydd' ac yn cefnogi pob ymgais i'w tynnu o lywodraeth.

Rhys Llwyd said...

Mae ddadl am ysgolion cyfun ac unffurfiaeth yn ddiddorol! Ac fel maen digwydd roedd llawer gan Kuyper i ddweud am hyn hefyd. Ar y cyfan dwi o blaid amrywiaeth gyda ysgolion - rhyddid dewis - roedd Kuyper (ac yma yng Nghymru pobl fel Bobi Jones) o blaid yr egwyddor o gael dewis ysgolion Cristnogol er enghraifft.

Ond dadl Bobi Jones yw, er ei fod yn credu mewn egwyddor o gael ysgolion arbennigol a crefyddol; oherwydd cyflwr y Gymraeg y byddai unrhyw rannu pellach yn debygol o wanhau safle'r Gymraeg yn bellach fyth.

Mae'r ffaith fod gyda ni ddewis rhwng ysgol cyfyng Saesneg a Chymraeg amwni yn ddigon am y tro i wrthwynebu unffurfiaeth addysg siawns?!