26.12.06

Cofiant Lewis Valentine

Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi. Dyma'r postiad cyntaf ers tro aeth hi'n ras wyllt dros y bythefnos diwethaf rhwng gwahanol bartïon 'dolig a cheisio cael pen mwdl ar y gwaith academaidd am y tymor yn ogystal a rhywun arall sydd wedi cychwyn cymryd peth o fy amser, nid wyf yn cwyno, ond nid stori i'r blog mo hwnnw! Ta waeth, mae'n ddiwrnod paffio a dyma allu dweud gair am un anrheg gwerthfawr iawn y ces i ddoe gan Mam-gu – cofiant Lewis Valentine gan Arwel Vittle. Dim ond y dair pennod cyntaf dwi wedi darllen hyd yma fodd bynnag carwn sôn ychydig amdano. Ers i mi glywed fod Y Lolfa yn cyhoeddi cofiant i Valentine roeddwn ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar oblegid yn ogystal a bod yn ffigwr arwrol/chwedlonol i mi pan yn blentyn (fynny yna ynghyd a Gwynfor a Saunders), gellir tynnu cymariaethau amlwg rhwng Valentine a'r gwr arall hwnnw yn fy mywyd ar hyn o bryd (ac am y dair blynedd nesaf o leiaf) R. Tudur Jones. Roedd Valentine, fel Dr. Tudur, yn Gristion ac yn genedlaetholwr o argyhoeddiad ac wedi byw yn yr un ganrif – peth tir cyffredin, felly tybiais y byddai go-dipyn o wybodaeth ddiddorol, defnyddiol a pherthnasol i fy ymchwil i yn dod i'r golwg yng Nghofiant Valentine.

Ar ôl dim ond tair pennod yn unig mae'n falch gennyf nodi nad wyf wedi fy siomi oblegid rhwng tudalennau 32 a 35 ceir sôn am syniadau cenedlaetholgar Gristnogol Emrys ap Iwan a'i ddylanwad ar Valentine. Yn y man bydd rhaid i mi fynd ar ôl Emrys ap Iwan mewn peth manylder oherwydd i Dr. Tudur fod, fe ymddengys, yn dipyn o edmygwr ohono hefyd. Gadewch i mi sôn rywfaint am syniadau Emrys ap Iwan. Bu i ddarllenwyr cyson fy mlog gofio i Emrys ap Iwan gael sylw gennyf dro yn ôl, ac yn wahanol i'r tro hwn, mewn golau gwael yn dilyn clywed darlith gan Gwilym H Jones am ei bregethu. Yn dilyn postio yr adroddiad i'r ddarlith yna bu i sawl person gysylltu gyda mi gan haerio mod i, neu bod Gwilyn H Jones wedi rhoi i mi gam argraff o Emrys ap Iwan ac nad oedd mor Rhyddfrydol a ches i fy nghymell i feddwl ar ôl gwrando ar y ddarlith. Er nad wyf am ymhél a diwinyddiaeth gymhleth yn awr dyma union peth o'r cam wrth roi sylw a chanol rhai o syniadau positif, yn fy ngolwg i, oedd gan Emrys ap Iwan.

Daeth Emrys i amlygrwydd drwy fod yn wrthwynebydd llym i gynlluniau'r Methodistiaid Calfinaidd i sefydlu eglwysi Saesneg, o fewn y rhai Cymraeg presennol, i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o fewnfudwyr di-Gymraeg oedd yn symud i Gymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe aeth Emrys ben ben a dyn mawr yr enwad ar y pryd Lewis Edwards, nid oedd Edwards yn gweld gwerth i'r iaith Gymraeg. Dadl Edwards oedd fod enaid y Sais yn fwy gwerthfawr na'r iaith Gymraeg. Oherwydd i Emrys gythruddo gymaint o ben bandits ei enwad fe wrthodwyd ei ordeinio yng Nghymdeithasfa Llanidloes yn 1881. Roedd Emrys yn frwd dros hunanlywodraeth i Gymru ac yn ôl Vittle ef fathodd y term 'ymreolaeth' am y tro cyntaf. Roedd i'w genedlaetholdeb rin caletach na rhin sentimentalaidd Cymru Fydd ac roedd yn wrth-imperialydd pybyr.

Mae'n debyg i un ysgrif gan Emrys gael effaith a dylanwad pellgyrhaeddol ar Valentine, wedi i Valentine ei ddarllen dywedodd na fu ef “byth yr un fath”. Brawddeg dyngedfennol yr ysgrif hon oedd; “Trwy drais y collasom ein rhyddid, a thrwy drais y mae'n rhaid inni ennill ein rhyddid drachefn. Pawb i'w pebyll, O Gymry!” Yn ddiddorol, yn yn wahanol i'r disgwyl efallai, roedd i genedlaetholdeb Emrys rin ryngwladol. Pwysleisiau le Cymru a'r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol, tu hwnt i Brydain. Cafodd ei ddylanwadu a'i ysbrydoli wrth edrych tua'r Eidal, Hwngari a Ffrainc. Dawn yn awr at ran bwysig o genedlaetholdeb Emrys sy'n berthnasol i Dr. Tudur. Nododd Vittle am Emrys ei fod '...am i'r Cymry ddangos eu haeddfedrwydd fel pobl a mynnu eu lle ymysg cenhedloedd y byd.' Mae'r frawddeg yna yn atgoffa dyn o frawddeg olaf The Desire of Nations gan Dr. Tudur sy'n dweud; '[healthy nantionalism]...asks nothing for itself that it does not wish for others...' Yn ddiddorol hefyd mae Vittle yn nodi fod Emrys yn dal fod rhaid '...sicrhau rhyddid i'r genedl yn gyntaf cyn mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd.' Mae'r syniadaeth yna yn adlais unwaith yn rhagor o'r pwyslais a gaed gan Dr. Tudur na ddylai Plaid Cymru roi i rethreg yr oes a dechrau labeli ei huna a 'sosialaeth' ayyb... Rhywbeth i'w sortio allan WEDI i Gymru ennill digon o hunanreolaeth oedd hynny a diau fod gwersi gan Emrys i ni aelodau Plaid Cymru (yn ogystal ac aelodau Cymreig y Ceidwadwyr megis Rhodri Ffransis) heddiw yn hynny o beth.

Roedd gan Emrys gyfiawnhad diwinyddol dros y frwydr genedlaethol yn seiliedig ar bregeth Paul yn Actau 17 lle mae'n nodi fod Duw wedi llunio pob cenedl i ddynion “i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan bennu cyfnodau ordeiniedig a therfynau eu preswylfod.” Cred Emrys mae rhan o Ragluniaeth Duw oedd bodolaeth cenedl y Cymry, a dyletswydd pob Cristion o Gymro oedd gwarchod y genedl honno a'i hiaith. Mae'r syniadau yma gan Emrys ap Iwan i'w cael yn ei Homilïau – dywedodd Valentine y dylai bawb ail-ddarllen yr Homilïau unwaith y flwyddyn er mwyn adfywhau!

Dwi'n gobeithio (os gai amser) i lunio i'w gyhoeddi yn Barn i gywiro cam-argraff (yn fy nhyb i) a roddwyd gan Vaughan Hughes (yn ei adolygiad o Gofiant Valentine) parthed y syniad o ddwyfoldeb cenedlaetholdeb Valentine. Yn y bôn dwi mynd i obeithio tynnu'r linell rhwng y cysyniad o genedlaetholdeb sydd yn ddwyfol a'r gwneuthuriad dynol sy'n cynrychioli cenedlaetholdeb, Plaid Cymru, sy ddim yn ddwyfol. Roedd Hughes yn gresynu na feirniadodd Vittle Valentine am y syniad yma fod 'Duw o'm hochr...' yn enwedig yn y byd post-9/11. Fy ngobaith yn y llythyr bydd gwneud y gwahaniaeth yn gwbl glir rhwng dwyfoldeb cenedlaetholdeb Valentine (a Dr. Tudur o ran hynny) a math monocentric o Dduw o'n plaid sy'n cael ei amlygu heddiw.

Os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn yna argymhellaf i chi ddarllen y cofiant drosto chi eich hun!

3 comments:

Guto said...

Blog eithriadol o ddifyr Rhys - diolch i ti.

Rhys Llwyd said...

Diolch yn fawr i ti ti Guto. Yn enwedig felly gan dy fod o'r un cenhedlaeth a mi - hen lanciau yn capel neu ddarlithwyr sy'n arfer rhoi sylw ar y postiadau mwy difrifol ar fy mlog - chwa o awyr iach yw gweld fod yr ifanc (a'r ffol?!) yn eu darllen hefyd.

Newydd sgimio drosto eto a sylwi fod ambell i frawddeg garbwl genai - erfynaf faddeuant am beidio prawf ddarllen cyn postio.

Siôn Meredith said...

Cefais innau'r blog yn ddifyr hefyd, a dwi ddim yn hen lanc nac yn ddarlithydd- ac ysywaeth ddim yn yr un genhedaeth â thi!

Bydd rhaid i mi fynd i;r afael â#r cofiant yma.