4.1.07

Porc mewn saws hoi!

Maen nhw'n dweud mae'r gyfrinach i flog llwyddiannus yw amrywiaeth. Dros yr wythnosau diwethaf dwi wedi sôn am fy achau teuluol, fy agwedd tuag at y Blaid Lafur, fideo o ddau gyfaill yn chwarae dwli, coffadwriaeth i weinidog, hysbysebu gig ac adolygu llyfr. Ac er mwyn bod yn amrywiol dyma droi at goginio!

Mae'r rhai sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod mod i'n reit hoff o goginio. Fy 'party pice' ydy Lamb Kleftiko Groegaidd, mae llond dwrn o fy nghyfeillion a rhai o ddarllenwyr y blog wedi bod ddigon ffodus i'w fwyta gyda mi – maddeuwch y myfiaeth am enyd OND mae'r Kleftiko yn 'lysh' ac yn plesio bob tro. Ond heno dyma droi a cheisio gwneud rhywbeth a Phorc!

Y cam cyntaf oedd gwneud rhyw fath o saws i faraneiddio'r porc ynddi cyn coginio. Pot o saws hoi, saws soy, lea a perins a sos coch [1].






Ei roi mewn padell ac ychwanegu pinshed o bowdwr garlleg a llwyed o siwgwr brown [2].






Ei gymysgu'n iawn! [3].







Pum stêc borc [4] (neu faint bynnag o bobl sy'n bwyta), ces i rhain o Morgan & Morgan, Aberystwyth – mae llawer gwell prynu cig o'r cigydd.




Troi a throsi'r stêcs yn y saws a'i gadael am awr [5].







Cynhesu dau ffrempan, un cylch i'r deisen tatw ac un gridle i'r cig [6].






I mewn a'r cig i'r gridle am ugain munud gan droi drosodd bob pum munud [7 a 8].















Yn y cyfamser rhai paratoi y deisen datw. Berwi y tato HEB dynnu'r croen am ddeng munud gan ofalu nad ydy'n nhw yn gor-wneud. Eu tynnu allan a'i sychu, tynnu'r croen a gratio'r tatws. Gratio nionyn hefyd ac yna cymysgu'r ddau a'i gosod fel teisen yn y ffrempan grwn [9].



Coginio'r tato am ugain munud gan droi hanner ffordd trwodd ar ôl i'r ochr gyntaf galedu [10 a 11].














I orffen agor potel o Rioja [12]!


Nawr rwy'n siŵr eich bod chi'n gofyn “Rhys! Lle mae'r llun o'r gampwaith a'r blât?” Wel dyma gyfaddefiad – fe aeth pethau braidd ar chwâl ar ôl cam 11. Wrth droi y deisen dato drosodd fe chwalodd y cyfan, y camgymeriad oedd troi drosodd cyn pob yr ochrau a'r gwaelod wedi caledu ddigon. Tybiaf mae'r ffordd o oresgyn y broblem yma tro nesaf bydd gwneud teisen deneuach NEU llawer o rai bach. Aeth pethau ddim rhy dda gyda'r cig chwaeth, doedd dim byd o'i le gyda'r cig; fodd bynnag o gael ail gyfle buaswn yn defnyddio llai o saws gan frwshio y saws yna ymlaen yn hytrach na maraneiddio'r cig ynddo.

Ta beth – 'dy chi'n dysgu o'ch camgymeriadau yn dydych!?

No comments: