Helynt Mabwysiadu Hoywon
Dwi wedi bod yn dilyn yr helynt hawl i fabwysiadu o asiantaethau mabwysiadu Eglwysig ers tipyn nawr ac mae wedi rhoi pen tost i mi. Ond dwi'n meddwl mod i wedi dod i safbwynt mor glir a medr dyn ddod iddo nawr. Felly dyma roi fy mhen ar y bloc - hyd yn oed os yr anghytunwch (a diau y gwnaiff y rhanfwyaf o ddarllenwyr y bloc) o leia deallwch fy safbwynt.
Er fod gennyf farn glir am wrywgydiaeth (ac wedi ei drafod yn gwbl agored gyda chyfaill i mi sydd o'r anian yna) hyderaf mod i'n dangos parch fel tasw ni'n dangos parch at unrhyw un arall, y math o barch y buaswn ni'n ei ddisgwyl i fi fy hun – dim mwy dim llai. Mae edrych i lawr ar wrywgydwyr gan Gristnogion yn gwbl anghywir oherwydd fel dywedodd yr Iesu; gadewch i hwnnw na syrthiodd daflu y garreg gyntaf. That rules me out felly. Er fod y Beibl yn glir ar y weithred wrywgydiol, nunlle yn y Beibl y maen dweud y dylid trin y bobl yna yn israddol nac yn wahanol - “Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.” (Rhuf 3:23) Wela i ddim sôn am wneud enghraifft o wrywgydwyr fan yna, yr unig air wela i ydy PAWB. Mae'r eglwys felly yn anghywir i wneud enghraifft.
Ond mae'r ddadl gyhoeddus am hawl cyplau hoyw i fabwysiadu gan asiantaethau mabwysiadu Eglwysig wedi symud ymlaen o'r ddadl draddodiadol am Gristnogaeth a Gwrywgydiaeth – ac i mi felly sy'n credu fod yr Eglwys yn anghywir i ddewis gwrywgydiaeth fel hitting point (Pam ddim meddwdod? Pam ddim y barus? ayyb...) dwi'n falch fod y ddadl wedi symud ymlaen at rywbeth y medra i gyfranogi i'r drafodaeth. Does dim diddordeb gennai i yn yr hitting point single issue o wrywgydiaeth.
Mae'r ddadl wedi symud tuag at yr issue 'Church and State' ac i ffwrdd o'r issue gwrywgydiaeth felly dyna pam mod i wedi dewis ei godi ar y blog. Mae yna egwyddorion mawr yn cael ei taflu i fyny yn yr awyr fan yma ac mae'n rhaid edrych ar rai egwyddorion Cristnogol. Lle mae eich teyrngarwch fel Cristion? Gyda'ch Duw neu gyda'r Wladwriaeth? Dyma rai adnodau perthnasol:
Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casau'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon. [Mathew 6:24]
[mae Iesu] ....yn feistr ar bob tywysogaethau ac awdurdod a gallu ac arglwyddiaeth, a phob teitl a geir, nid yn unig yn yr oes bresennol, ond hefyd yn yr oes sydd i ddod. [Effesiaid 1:21]
Y mae ef, ar ôl mynd i mewn i'r nef, ar ddeheulaw Duw, a'r angylion a'r awdurdodau a'r galluoedd wedi eu darostwng iddo. [1 Pedr 3:21]
Hefyd Datguddiad 13 yn ei gyflawnrwydd lle y portreadir Gwladwriaeth Anghrist, dyma 3 adnod sy'n sefyll allan i mi:
Ond hefyd cafodd y gallu i roi anadl i'r ddelw o'r anghenfil cyntaf, fel bod hwnnw yn gallu siarad a gwneud i bawb oedd yn gwrthod addoli'r ddelw gael eu lladd. Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb! Yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc, sef enw yr anghenfil neu'r rhif sy'n cyfateb i'w enw. [Datguddiad 13:15-17]
Er mod i'n weddol ryddfrydol fy agwedd, am Gristion Uniongred, at wrywgydiaeth, yn yr achos yma rwy'n credu fod y Wladwriaeth yn anghywir i orfodi rhywbeth ar gydwybod yr Eglwys a Christnogion. Mae yna asiantaethau mabwysiadu seciwlar allan yna, rhai gyda llaw a wrthododd cyfeillion i mi oedd y Gristnogion rhag mabwysiadu oherwydd iddynt nodi y byddai'r plentyn yn cael ei godi mewn teulu Cristnogol yn hytrach nag mewn teulu 'niwtral'. Plwraliaeth ar y mater yma sydd yn syrthio dawelaf ar fy nghydwybod i – dylai asiantaethau Cristnogol fod yn rhydd o ymyrraeth y wladwriaeth ac fe ddylai rhai seciwlar fod yn rhydd oddi wrth ymyrraeth yr Eglwys.
O'i roi mewn cyd-destun gwahanol. Os ydy Crefydd yr Iddew Uniongred yn dweud mae dim ond yn yr iaith wreiddiol (Hebraeg?!) y dylid darllen y Torah mewn gwasanaeth yna ni fyddai Deddf Iaith Newydd yn dweud “tyff rhaid chi ddechrau ei ddarllen yn ddwy-ieithog nawr” na fyddai!? Wrth gwrs ddim. O'i roi mewn cyd-destun gwahanol mae'r ddadl yn erbyn ymyrraeth yn yr Eglwys yn dod yn dipyn cliriach tybiaf.
Dwi cytuno gyda'r Archesgobion Rowan Williams a John Sentamu pan ddywetsant ddoe; '...conscience should never be legistlated against'. Ond lle bod y Wladwriaeth yn ymyrryd ar ryddid Cristnogion a'r Eglwys fe wydd pawb beth yw fy ateb personol innau. Yn ngeiriau R. Tudur Jones: '...credwn mai ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.'
2 comments:
Diolch Rhys am wneud i mi feddwl. Dwi'n tueddu i gytuno efo dy sylwadau.
Diddorol Dafydd. Dwi'n cofio cael sgwrs gyda ti i'r perwyl hwn rhyw ddwy flynedd yn ôl. Ar y pryd dwi'n cofio ti'n son y dylem ni geisio gwneud popeth mor ryddfrydol a phosib ac i mi gytuno gyda ti.
O ran dinasyddiaeth, dwi'n meddwl fod rhaid gwahaniaethu rhwng y dinesydd (unigolyn) a'r Eglwys (sefydliad). Drwy fynny bod asiantaethau mabwysiadu Cristnogol yn cael eu heithrio o'r ddeddf nid mynnu dyrchafiaeth mo hyn oblegid fod yr Eglwys yn hawdd ei barn fod hawl gan asiantaethau seciwlar wneud.
Plwraliaeth yw'r cysyniad mawr sydd yn fy mhen ar hyn o bryd a dyna'r syniad sydd yn fy nhynu yn nes ac yn nes tuag at gefnogi ysgolion ffydd.
Y ddeilema dwi wedi ei chael ers rhai blynyddoedd yw hyn. Fel Cristion mae cyfrifoldeb arnat i bledio gwerthoedd Cristnogol ar dy genedl OND all hi ddim bod yn iawn gorfodi dy werthoedd Cristnogol ar y di-gred - theocratiaeth byddai hynny. O bosib fod yr ateb felly mewn plwraliaeth. Hmmm...
Post a Comment