5 LP mwyaf dylanwadol i mi
Dyma nodi rhai o'r LP's sydd wedi bod y mwyaf o ddylanwad arnai. Yn nhrefn y dylanwad – gan orffen gyda'r un mwyaf dylanwadol.
5. 'Ffraeth' – Beganifs (?1992)
Dyma oedd yr LP gyntaf i mi gael erioed. Casset ydoedd ac mi oeddw ni ond yn saith mlwydd oed. Ei gael yn anrheg gan Mam wnes i (wrth reswm – pwy sy'n prynu cerddoriaeth ei hun yn saith oed?!) Roeddwn ni'n hooked ar y gerddoriaeth yma tan i mi fynd i ysgol uwchradd. Tua 1993 neu 1994 daeth Beganifs a'i hail LP allan 'Aur' ond hon 'Ffraeth' oedd y ffefryn. Y gan anfarwol oedd 'Cwcwll'. Rwy'n dra ddiolchgar i Mam am fy nghyflwyno i gerddoriaeth o'r fath safon mor ifanc. Ar yr un pryd roedd fy holl ffrindiau yn dechrau darganfod euro pop Saesneg a dyne lle oeddw ni yn hooked ar indy rock Cymraeg.
4. 'Hyfryd i fod yn fyw' – Jess (?1991)
Dois i ddim ar draws yr LP rhyfeddol yma tan i fi weld Jess ar y teledu pan wnaethon nhw ail-ffurfio i Wŷl y Faenol (?)2000, ces i gopi casset ohoni o Cob Records, Porthmadog rai wythnosau wedyn. Dyma yn fy nghyb i yw campwaith mwyaf yr iaith Gymraeg onid Cerddoriaeth gyfoes y Gorllewin i gyd. Mae'r LP yn ryfeddod – o'r coral pedwar llais 'Annwyl Dad' ar y dechrau i ffwnc 'Julia Gitar' yn y canol a gorffen gyda'r anthemig 'Glaw '91'. Rhywbeth arall sydd yn sefyll allan am yr LP yma yw defnydd medrus Chris Lewis ar y gitar drydan o effeithiau gitar digidol – mae'r synau mae Chris yn cael allan o'i Rickenbarker yn hollol mindblowing. Daeth y cyfan yn llythrenol fyw i mi haf 2006 oherwydd i mi weld eu haduniad ym Mhonrhydfendigaid. Eu set oedd yr hanner awr orau o gerddoriaeth byw dwi erioed wedi clywed mewn unrhyw iaith – cwbwl wefreiddiol.
3. 'Everything must go' – Manic Street Spreachers (1996)
Unwaith eto Mam brynodd hon i mi. Dwi'n meddwl iddi ddarllen erthygl am eu gwleidyddiaeth yn y Times neu rhywle a theimlo y byddai'r sosialaeth oeddent yn pledio o les i Rhys bach. Fe syrthiais mewn cariad a'r caneuon yn syth bin – yr asio rhyfeddol rhwng alawon cryf cofiadwy a gitars pwerus. Dan ddylanwad yr LP yma y dechreuais ddodi posteri Ciwba i fyny ar wal fy ystafell wely yn o ogystal a gwneud ymholiadau am ymuno a'r Blaid Sosialaidd! Dwi'n meddwl mae pennaf ddylanwad yr LP yma arna i oedd sylwi arwyddocâd, neu arwyddocâd posib, Gwleidyddiaeth mewn cerddoriaeth.
2. 'Word gets around' – Stereophonics (1998)
Erbyn hyn doedd gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg ddim yn cwl ac, ag eithrio Topper, doedd dim bandiau Cymraeg arbennig o dda yn bodoli ar y pryd (cofiwch sut oedd crwt 12 mlwydd oed o Aberystwth fod clywed am y Tystio etc... ar y pryd). Ond ar y pryd doedd y diffyg Cymraeg ddim yn fy nghorddi oherwydd roedd gyda mi arwyr Cymreig sef y Stereophonics. Roedd eu Cymreictod yn atyniad mawr, roeddw nhw'n syrffio ar don Datganol a Cwl Cymru a finnau a'm holl ffrindiau yn yr ysgol yn syrffio gyda nhw. Roedd caneuon fel 'Tramps Vest' a 'Local Boy in the Photograff' yn anthemau cenedlaethol i'm cenhedlaeth ac roedd Kelly Jones yn Dywysog Cymreig. Roedd hon yn LP o gerddoriaeth pop-rock gwych ac, yn allweddol, roedd pawb yn medru chwarae'r caneuon eu hunain ar y gitar adre. Dwi dal i feddwl mae ar yr LP yma mae tiwns gorau y sin Anglo-Gymreig erioed.
1. '(What's the Story) Morning Glory?' - Oasis (1995)
Dyma heb os yr LP sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arna i. Fe brynes y CD yn ystod haf 1996 – dwi'n cofio y misoedd cynt roedd adeiladwyr o Fanceinion wedi bod yn y tŷ yn troi yr atig yn ystafelloedd gwely ac roedden nhw'n byddaru Oasis trwy'r dydd a thrwy'r nos a dyna sut y des i hoffi Oasis. Roeddwn nhw'n honni eu bod nhw wedi bod yn ysgol gyda Noel – maen ddigon posib i feddwl eu bod nhw tua run amser ac yn dod o Fanceinion. Y ffefryn ar y cychwyn oedd 'Don't Look Back in Anger' ond yn fuan iawn des i garu pob can heblaw am 'Hey Now', y gan doedd neb yn leicio. Yr LP yma oedd LP fy nghenhedlaeth, roedd pawb a copi a phawb yn gwybod geiriau pob un can. Roedd yr alawon mor bwerus ac Oasis eu hunain yn rock stars go iawn yn haeddu eu lle ar y newyddion am ddod a awyrennau i'r llawr (yn llythrennol) bod rhyw ychydig wythnosau. Oasis yw'r band sydd wedi cael y dylanwad mwyaf arna i a prin galla i feddwl a godith unrhyw fand uwch eu pennau yn awr gan fy mod i'n 21 ac bellach rhy hen i 'gael fy nylanwadu'.
1 comment:
Gwych iawn boi!!
Post a Comment