24.2.07

Olympics - Ie, Economi Cymru - Na

Fe gofiwch chi ddarllenwyr rheolaidd y blog i mi gyfrifo cost codi traffordd rhwng Caerdydd a Bangor nol yn Nhachwedd, 2005. Y gost byddai £4.5bn ac wedi sylweddol hynny dechreuais dybio na fydde ni byth yn gweld y freuddwyd yn dod yn wir.

Ond heno ma darllenais stori fod Olympics Llundain 2012 mynd i gostio £9bn! Ie dros ddwbwl pris prosiec is-adeiledd wnaiff chwyldroi a bywiogi economi a chyfoeth pobl Cymru am byth. Dyma ddangos eto lle mae blaenoriaethau'r Wladwriaeth droedig Brydeinig yn syrthio. Gwyl hamdden tymor byr yn cael blaenoriaeth dros brosiect is-adeiledd tymor hir wnaiff gael effaith tymor hir ar ansawdd bywyd Cenedl gyfan.

1 comment:

Huw said...

Cytuno bron yn llwyr gyda ti am unwaith. I fi, Gemau Olympaidd 2012 yw'r syniad gwaetha mae'r lywodraeth bresennol wedi ei chefnogi. Mae na fwy o resymau da am oresgyn Irac na chynnal y gemau Olympaidd. Twptra pur.

Dwi ddim yn credu fodd bynnag fod unrhyw fias gwrth Gymreig yn y penderfyniad. Bydd pob ardal ym Mhrydain (y tu allan i ganol a Dwyrain Llundain) yn colli allan (a hyd yn oed yn Llundain, bydd yr effeithiau i gyd ddim yn bositif fel sy'n cael ei weld yn barod). Dim traffordd yw'r ateb chwaith sai'n credu, ond system reilffyrdd gynhwysfawr.

Ond, in any case, Olympics Llundain = pisho arian lawr y toiled