24.4.07

Ar wib yn Rhufain – III

Wedi i ni fwcio'r gwyliau fis yn ôl cynhyrfodd Adrian yn lan gyda'r syniad o fynd i'r Fatican. Er mai Anglican Protestannaidd ydyw mae pawb sydd yn ei adnabod yn gwybod yn iawn ei fod e'n reit hoff o'r diwylliant seremoniol sydd ynghlwm gydag Uchel-Eglwysiaeth ac maen cyfaddef ei hun ei fod yn Anglo-Gatholig parthed ffafriaeth am drefn gwasanaeth. Yn y bôn, mae Adrian y teip (ac mi fydde fe'n cyfaddef hyn ei hun) sy'n dotio gyda gweld crandrwydd a pa well grandrwydd trwy'r byd na chrandrwydd y Fatican. Wrth gwrs i'n cyfaill o Anglican toedd ymweld a'r Fatican fel twristiaid arferol ddim yn ddigon ac felly dyma fe'n ffonio Palas Lambeth a holi cyfaill iddo fan yna a oedd ganddo gyswllt yn y Fatican – oedd – a dyma Adrian yn cael rhif ffôn personol un o Gardinaliaid y Fatican. James Harvey oedd ei enw a fe sydd yn y swydd yr oedd y Pab yn dal cyn iddo ddod yn Bab fel rwy'n deall! Esboniodd Prefect Harvey na allai addo Private Audience gyda'r Pab ond fe allasai addo tocynnau i ni i General Audience gyda'r Pab.

Aethom ni i gasglu'r tocynnau y noson cynt ac wrth gyrraedd y bore wedyn gwawriodd arnom nad oeddem ni wedi cael cymaint a hynny o special treatment oherwydd roedd oddeutu 10,000 o bobl eraill, pererindotwyr, yn chwifio eu gwahoddiadau o amgylch y lle. Ond yna sylweddolais fod ein gwahoddiad ni liw gwahanol i un pawb arall a dyma ni'n cael ein brysio ymlaen i'r segment flaen yn y dorf i fyny ar yr un lefel a'r Pab. Eistedd yn y cefn (wel cefn y rhan lle oeddem ni) yn hapus fy myd gwnes i ond fe aeth Adrian reit i'r blaen ac fe gafodd ei gofleidio gan y Pab.

Roedd gweld y sioe yn dipyn o brofiad ac rwy'n falch mod i wedi mynychu. Ond roedd y cyfan ychydig yn anghyfforddus i mi fel Cristion. Roedd y pedastl yr oedd y Pab yn cael ei osod yn anghywir, nid yw'n Gristion mwy na gwell na fwy cyfiawn nac unrhyw Gristion arall ac mae unrhyw sôn ei fod anffaeledig yn sylfaenol Anghristnogol. Crist ydy'r unig gyfryngwr a'r unig un an-ffaeledig a fu ac sydd ond roedd llawer o'r dorf yn trin y Pab fel y cyfryngwr.

5 comments:

Philoctetes said...

peth diddorol a llesiol yw teithio a dysgais ambell beth wrth ddarllen y blog. Un cwestiwn bach gennyf, sy'n debygol o mofyn ateb mawr, beth yw ystyr anffaeledig?

Rhys Llwyd said...

hmmm:

Anffaeledig = infallible

–adjective
1. absolutely trustworthy or sure: an infallible rule.
2. unfailing in effectiveness or operation; certain: an infallible remedy.
3. not fallible; exempt from liability to error, as persons, their judgment, or pronouncements: an infallible principle.
4. Roman Catholic Church. immune from fallacy or liability to error in expounding matters of faith or morals by virtue of the promise made by Christ to the Church.
–noun
5. an infallible person or thing.

Adrian Morgan said...
This comment has been removed by the author.
Adrian Morgan said...

Parthed dy sylwadau amdanaf ar dy flog: Yr unig label eglwysig yr wyf fi'n fodlon ei wisgo ydyw 'Cristion'. Rwy'n aelod o eglwys sydd, heb os, yn canoli ei sylw ar Grist: credaf finnau mai ef yn unig yw ein cyfryngwr a thrwy ymddiriedaeth lwyr ynddo ef y cawn, os ydym yn fodlon ei dderbyn, achubiaeth drwy ei aberth drosom ar y groes. Ynglyn a'm eglwysyddiaeth: rwy'n teimlo'n hollol gyffyrddus ym mhob math o drefn gwasanaeth. Nid y seremoni sydd yn bwysig imi ond yn hytrach yr hyn y mae'r seremoni yn ei gynrychioli.

Yr wyf fi, yn bersonol, wedi arfer a gwasanaeth syml lle mae'r gair a'r arfer o weddi yn ganolog. Gwerthfawrogais urddas a chrandrwydd y Fatican ac yr wyf fi'n falch y cefais gyfle i ymweld a'r lle. Serch hynny, i mi, ni all yr un o balasau crand ein byd rhagori ar ardderchogrwydd cariad ein Duw.

Rhys Llwyd said...

Diolch am dy sylwadau Adrian, maen yn galanogol! Ond paid a gwadu rwyt ti wedi dweud droeon dy fod yn hoff o drefn Eglwysig Anglo-Gatholig er dy fod, chware teb yn pwysleisio mae diwygiedig yw dy ddiwinyddiaeth bellach - testun llawenydd!