8.4.07

Canlyniad tebygol Ceredigion 2007

Ers pythefnos ac am y dair wythnos nesaf dwi'n bwriadu neilltuo mwy o amser na'r arfer i Blaid Cymru. Rhag ofn fod rhai o'm tiwtoriaid ym Mangor yn darllen hwn ac yn arswydo gan wybod fy mod i fod i weithio ar draethawd ar y syniad o Wladwriaeth Ddwyfol yn y cyfnod Piwritanaidd – peidiwch a phoeni mae'r gwaith yn mynd rhagddo o hyd. Hefyd mewn amddiffyniad o roi peth amser i'r Blaid dros yr wythnosau nesaf rhagor na darllen llawn amser gwerth fyddai i mi nodi i R. Tudur Jones (testun fy ymchwil gyda llaw i chi nad sy'n gwybod) roi peth amser o'r neilltu i weithio yn ddiwyd dros y Blaid adeg etholiad.

Rwy'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, sedd fydd yn faes brwydr galed a brwd rhwng y Blaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn draddodiadol sedd Ryddfrydol yw Ceredigion a'r Rhyddfrydwr mawr olaf i gynrychioli'r sedd yn San Steffan oedd Geraint Howells, gwr bonheddig ac os nad oedd yn Genedlaetholwr politicaidd roedd yn sicr yn Wladgarwr brwd ac fe gefnogodd ddatganoli yn 1997. Fodd bynnag profodd ganlyniad Ceredigion (a Gogledd Penfro bryd hynny) yn etholiad cyffredinol 1992 yn 'shock result' dros Gymru. Mae atgofion gan fy rhieni o hen ffrindiau coleg yn ffonio wedi i'r blychau gau ar noson yr etholiad yn holi os oes sail i'r honiad “fod gobaith yng Ngheredigion” eu hateb oedd “na, dwi ddim yn meddwl yn anffodus.” Ond er mawr syndod a llawenydd i fy rhieni neidiodd y Blaid, gyda'i hymgeisydd Cynog Dafis, o'r pedwerydd safle i'r cyntaf gan guro y Bonheddwr poblogaidd Geraint Howells gyda mwyafrif sylweddol o dros 3,000. Wele y newid ym mhleidlais y Blaid yng Ngheredigion yn arwain fyny, ac yn cynnwys, 1992:

Collodd y Rhyddfrydwyr bob momentwm ac yn 1997 methiant trychinebus oedd eu hymgais i ail ennill y sedd – roedd hyn yn rhannol oherwydd y buzz ynghylch y Blaid Lafur yn 1997 – 'things can only get better' – perfformiodd Llafur yn well na'r arfer yng Ngeredigion yn 1997 a gellid casglu mae'r Rhyddfrydwyr fu ar eu colled ac nid y Blaid. Rhwng 1997 a 2003 mynd o nerth i nerth y gwnaeth Plaid Cymru gyda Cynog Dafis yn ennill pleidlais bersonol gref drwy gael ei weld fel deiliad mantell Geraint Howells. Wele y canlyniadau rhwng 1997 a 2003 (sydd yn cynnwys dwy etholiad Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 a 2003 yn ogystal ac Is-Etholiad yn 2000, noder hefyd fod canlyniad y rhyddfrydwyr yn 1999 yn cynnwys eu nifer nhw+yr ymgeisydd annibynnol y credaf i oedd yn dwyn cefnogaeth Rhyddfrydwyr traddodiadol yn ogystal):

Ond wrth gwrs daeth Etholiad 2005 a tipyn o sioc i Bleidwyr Ceredigion. Roeddem ni wedi syrthio i'r trap o feddwl fod Ceredigion bellach yn sedd saff i'r Blaid. Yn amlwg toedd hi ddim ac fe gollodd Seimon Thomas y sedd yn ôl i'r Rhyddfrydwyr o 219 o bleidleisiau yn unig, wele y swing cafodd y Rhyddfrydwyr rhwng 2001 a 2005 yn y graff isod (yn dangos y swing mewn canran rhwng 2001 a 2005):

Yn hollol fecanyddol (fe ddof at beth ddigwyddith go iawn mewn munud) petae yr un swing a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2005 i ddigwydd rhwng etholiad 2003 a 2007 dyma fyddai'r canlyniad yn seiliedig ar turn out ychydig yn uwch na 2003 sef 30,000 o etholwyr (ymgyrchu mwy gweledol a pynciau mawr lleol fel cau ysbytai yn debygol o ddod a mwy allan i bleidleisio yng Ngheredigion) a'r newid canrannau fel a ganlyn: Plaid -2.4, Rhyddfrydwyr +9.6, Llafur -3.3, Ceidwadwyr -7.1:

Fel y gwelwch chi os y digwydda swing 2005 yn 2007 yna fe fyddai'r Blaid yn dal ar y sedd a hynny gyda mwyafrif o 1,740. Ac a bod yn hollol deg re-run o 2005 fyddai y 'worst case senario' i'r Blaid yn 2007. Os ydy'r Blaid dal i ddal ar y sedd gyda'r 'worst case senario' yna mae pethau'n edrych yn reit addawol i'r Blaid.

Ond dwi ddim yn meddwl y bydd 2007 yn re-run unfath o'r hyn ddigwyddodd yn 2005 am y rhesymau canlynol:

1. Plaid Cymru wedi dysgu gwers ac felly ag ymgyrch gref broffesiynol eleni
2. Plaid Cymru, yn ystadegol, yn gwneud yn well na'r pleidiau Prydeinig yn etholiadau Caerdydd a'r pleidiau Prydeinig yn draddodiadol yn gwneud yn well na'r Blaid yn etholiadau Llundain. Y fantais yn 2007 gyda'r Blaid felly.
3. O gymhathu ystadegau 2005 i un 2007 dim ond 780 o bleidleisiau bydda'i Ceidwadwyr yn cael – mae hyn yn amlwg yn gam-arweiniol oherwydd disgwylir i'r Ceidwadwyr wneud yn rhesymol gan eu bod nhw ag ymgeisydd cryf ac hefyd fod y Ceidwadwyr yn gyffredinol mewn cyfnod o fis-mel gyda Cameron fel arweinydd – y Rhyddfrydwyr yn fwy tebygol o golli pleidleisiau i'r Ceidwadwyr na Plaid.
4. Hefyd Elin Jones yn ymgeisydd cryfach a mwy addas i Geredigion nag yr oedd Seimon Thomas dros y Blaid.

Felly fel casgliad dwi'n meddwl gallaf ddweud yn reit addawol y bydd Elin Jones a Phlaid Cymru yn cadw'r sedd er y bydd hi'n reit agos ar y noson – mae'r ystadegau a ffactorau eraill yn dangos fod Elin yn debygol o ddal gafael er y caiff ei mwyafrif ei docio ryw ychydig.

3 comments:

Anonymous said...

Da iawn, Rhys

seiriol said...

Cytuno'n llwyr - dadansoddiad synhwyrol iawn, Rhys.

Tortoiseshell said...

Newydd dod ar draws dy flog, Rhys. Ffantastig. Rwy'n meddwl bod gennym ni lot mewn gyffredin o ran diddordebau.

Yn cyn-Gristion a sydd wedi troi tuag at Undodiaeth gan na allaf cymodi gyda neges ganolog y Groes.

Hefyd yn gyn-bleidiwr brwd sydd wedi magu diddordeb mewn Rhyddfrydiaeth ers 9/11/2001.

Yn tybio bydd Regional & Federal Studies 16/3 (2006) o ddiddordeb i ti? mwynha!

Cawn peint rhywbryd?!?