5.4.07

Etholiad ar y gweill - cyfle i ddyrchafu cyfiawnder i Gymru?

A ninnau yn nesau at gyfnod Etholiad gadewch i mi dynnu eich sylw at bamffled ddifyr cyhoeddodd R. Tudur Jones yn 1952 'Yr Annibynwyr a Hunanlywodraeth i Gymru'. Ddwy flynedd yng nghynt pasiodd Undeb yr Annibynwyr yn Undeb Ystradgynlais (1950)

Ein bod ni gynrychiolwyr Eglwysi Annibynwyr Cymru... yn datgan yn bendant ein hargyhoeddiad ein bod yn gweithredu yn unol ag ewyllys Duw trwy hawlio Hunanlywodraeth i Gymru yn ddi-oed.


Cred Tudur Jones mae nid penderfyniad gwleidyddol oedd hwn o'r rheidrwydd ond penderfyniad yn cynrychioli barn grefyddol. Fe a Tudur Jones ymlaen yn gyntaf yn y bamffled i drafod y Wladwriaeth, dywedodd fod “...pob awdurdod a gallu wedi ei ddarostwng i Grist.” Mae Tudur Jones yn ymwrthod a'r mynegi gobaith y daw amser pan fydd pwerau “...wedi eu Cristioneiddio.” Noda eu bod nhw eisoes wedi eu darostwng. Cydnabu Tudur Jones fod gan y Wladwriaeth awdurdod ac fe all ddefnyddio grym a gorfodaeth. Ond nid yw'r awdurdod yn absoliwt, “...yr unig awdurdod terfynol yw awdurdod Crist” meddai. Os bydd y wladwriaeth neu unrhyw sefydliad arall yn defnyddio eu hawdurdod mewn ffordd sy'n groes i Arglwyddiaeth Crist cred Tudur Jones y dylid ei wrthwynebu; “...credwn mai ein braint a'n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.” Cred Tudur Jones nad “...oes gylch na all yr Eglwys ddwyn ei thystiolaeth ynddo.” Ac mae Tudur Jones yn gwrthwynebu'n chwyrn Cristnogion sy'n credu y dylent beidio mela a Gwleidyddiaeth; “Petruswn rhag dilyn cyngor rhai ac ymwrthod a phob ymgais i gysylltu enw Duw a materion gwleidyddol.”

Gan symud ymlaen i drafod y genedl noda fod y genedl fel y teulu yn “...un o'r ffurfiau anhepgorol ar fywyd dyn”. Honna Tudur Jones nad oes yr un dyn nad yw'n aelod o genedl; “A oes dyn nad yw hefyd yn aelod o genedl?” Dywed yn blwmp ac yn blaen; “Trais yw ysbeilio dynion o'u treftadaeth genedlaethol”. Cred Tudur Jones fod y Genedl yn bwysicach na'r wladwriaeth; “Morwyn yw'r wladwriaeth.” Pwrpas, neu un o bwrpasau'r wladwriaeth ydy amddiffyn y genedl; “Lle bo bywyd y genedl yn nychu, dyletswydd y wladwriaeth yw ei amddiffyn a'i gryfhau.” Tudur Jones yn nodi nad ydy gofalu ar ôl buddiannau Cymru yn fwriad gan y wladwriaeth Seisnig. Ymhellach os oes yna enghreifftiau ple y bu hi i amddiffyn cenedl y Cymry “...damweiniol oedd hynny, ac yn dibynnu ar y ffaith fod diogelwch Lloegr yn cynnwys diogelu Cymru.”

Cred Tudur Jones fod gwersi hanes yn dangos “...na all yr un wladwriaeth wasanaethu dwy genedl.” a “Gwaith llywodraeth Llundain yw noddi bywyd y genedl Seisnig”. Noda hefyd; “...mae gwrthgloddiau o'r fath [cam-wahaniaethu ar sail lliw croen neu iaith tafod] yn bethau na ddichon Cristnogaeth eu goddef.” Cred Tudur Jones fod y Wladwriaeth Brydeinig yn cam ddefnyddio addysg - os y'i defnyddir i ddileu iaith a diwylliant, nid addysg mohono, noda Tudur Jones “Aeth y gwas yn deyrn.” ac mai “...offeryn i ddifa'r genedl oedd ganddynt dan eu dwylo” mewn trefn addysg. Noda oherwydd fod Cymru yn cael ei reoli gan Lundain dydy pobl Cymru ddim yn cael democratiaeth e.e. Mae mwyafrif pobl Cymru wedi cefnogi plaid 'sosialaidd' Lafur drwy ran helaeth yr G20 ond ni welwyd llywodraeth felly dros Gymru oherwydd mae Lloegr oedd a'r gair olaf; “Er i'r genedl Gymreig ddangos ei hawydd am gyfundrefn Sosialaidd... ni fuasai wedi cael profi blas y gyfundrefn honno oni bai i gyflwr gwleidyddol Lloegr wneud hynny yn bosibl.” Os nad yw'r wladwriaeth yn dilyn barn y cyhoedd “...rhaid i anghyfiawnder ddilyn”. Rhaid gwrthwynebu anghyfiawnder yn ôl Tudur Jones; “Nid oes angen cyfrif pennau wrth fesur anghyfiawnder; ni waeth pa un ai pump ai pum mil sydd yn dioddef – os gwnaethpwyd anghyfiawnder rhaid ei atal.” Wrth drafod sut bo'r Wladwriaeth Brydeinig yn nychu economi Cymru ac yn gorfodi pobl ifanc i adael Cymru i chwilio am waith dywedodd; “Nid oes dim iaith yn ddigon cryf i gondemnio'r Satneiddiwch hwn.”

Fel casgliad noda; “...credwn fod gan bob cymdeithas o ddynion hawl i'w llywodraethu ei hun, pa mor fychan bynnag y bo.” ac “... yn y maes cyd-wladol... [credwn (Annibynwyr) mae] trwy i bob cenedl ddwyn ei beichiau ei hun y dysgwn mor rhyfeddol bwysig yw dwyn beichiau ein gilydd.”

A ninnau yn nhymor etholiad ffôl o beth fyddai i mi ddatgan y dylai'r cristion bleidleisio i plaid 'bla bla bla' ond credaf fod y gwerthoedd uchel yma a ddadansoddwyd gan Tudur Jones yn ei bamffled yn ystyriaethau pwysig i'r Cristion ddilyn wrth ddewis pa Blaid i gefnogi. Yn bersonol rwyf i wedi dewis y blaid honno y credaf i sydd mwyaf unol a'r gwerthoedd Cristnogol uchod. Ordeiniad gan Dduw ydy'r genedl a rhaid ei hamddiffyn. Mae gan bawb rôl posib drwy fwrw pleidlais un ffordd neu'r llall ar Fai y 3ydd.

1 comment:

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.