26.4.07

Hustings Ceredigion

Gair bach sydyn am yr hustingiau yn Aberystwyth echnos. Roedd y cyfan yn gwbl ddi-fflach dim dadlau tanllyd yn codi fel dwi'n cofio'n codi yn hystingiau 2005 rhwng Seimon Thomas a Marc Williams. Siom fwyaf y noson oedd John Davies, 'Wel mi fydde ti yn dweud hyny yn bydde ti Rhys' dwi'n eich clywed chi'n dweud. Wel na, ddim o'r rheidrwydd, roeddwn ni'n disgwyl y byddai John Davies yn serenni gan ei fod yn siaradwr cyhoeddus carismataidd o draddodiad y Ffermwyr Ifanc o'i gymharu ac Elin sy'n fwy tawel a dwys ei thrafod. Ond ni welwyd John y carisma echnos – roeddwn ni'n falch fod y Dem Rhyddion ddim wedi medru defnyddio eu trump card sef cymeriad John. O ran swmp a sylwedd roedd Elin ben ac ysgwyddau uwchlaw pawb arall, yn trafod polisïau ac achosion mewn manylder ac yn dangos fod hi'n byw a bod gyda'r issues sy'n berthnasol i Geredigion nid jest wedi pigo fyny arnyn nhw er mwyn ymladd yr etholiad yn unig.

Roedd yr ymgeisydd Llafur ddim yn bresennol ond daeth cynrychiolydd yn ei lle. Llipryn ffôl os fu un erioed – dyn cwbwl ddall i bob datblygiad gwleidyddol sydd wedi digwydd yng Nghymru yn yr ugain mlynedd diwethaf. Perfformiodd Trev y Tori yn reit dda unwaith eto chware teg, maen foi hoffus iawn ac i weld yn sefyll yn gadarn ar ochr Wlatgarol a Chymreig ei Blaid – er nad oes gobaith caneri ganddo fynd mewn yn sefyll dros y Ceidwadwyr yma yng Ngheredigion dwi'n ffyddiog, o ddal ati, y gwelith y Ceidwadwyr ef yn ddigon o gaffael gyda hyn i roi sedd obeithiol iddo.

Dwi'n cael fy nghyfweld ar ran y Blaid gan Owain Phillips un o 60 y Beeb ar gyfer BBC 2W p'nawma. Dwi fymryn yn nyrfys gan fod y cyfweliad am fod yn Saesneg ond bydd yn seibiant reit neis o'r traethawd bondigrybwyll yma ac yn gyfle i siarad bach o sens am bolisiau'r Blaid yn hytrach na chlymbleidio.

2 comments:

Unknown said...

Effallai ei fod rhywbeth i wneud ag ef yn safio ei anadl er mwyn rhoi uffarn o sioe dda ymlaen lawr yng Nghaerdydd Rhys. Dyna beth wyt ti'n galw gwleydydd da iawn yn gallu ymladd ei ffordd gyda'r BIG BOYS dim yn erbyn ryw Elin Jones, Trefor Jones a Dafydd Morgan a.y.b. yng Nghanolfan y Morfa ble roedd Plaid gyda set-up bach eu hun. A Paul James jest yn embaresment i'r Blaid.

Rhys Llwyd said...

Wel, fethodd e a gwneud sioe ar Pawb a'i Farn o Gaerdydd ac fe wnaeth e addo 'yn sicr' y byddai'r Dem Rhyddion yn cael gwared o brescripsiwn am ddim - ddim yn y maniffesto John!