27.4.07

Y Cyfryngau a'r Etholiad – her i'r BBC

Rwy'n meddwl fod BBC Cymru, wel yr ochr Saesneg beth bynnag, heb wybod iddynt hwy eu hunain yn sylfaenol wrth-Cymru fel cenedl. Pam ydw i'n gwneud yr honiad beiddgar yma? Wel ystyriwch eu rhaglenni 'Wales Today' ar BBC 1. Mae fformat ac ethos y rhaglenni yn dilyn fformat rhaglenni rhanbarthol eraill y BBC dros Brydain fel BBC Points West neu BBC London News yn hytrach na cynnig gwasanaeth cenedlaethol. Cymerwch Wales Today fuodd heno am 10.30, wythnos i fynd cyn etholiad 'cyffredinol' Cymreig a dim sôn am yr etholiad. Y prif stori oedd honno am y llanc ifanc yn derbyn ymosodiad gan Gi, stori ddifrifol a thrist yn wir ond o ddifri calon gyda wythnos i fynd cyn yr etholiad 'cyffredinol' yng Nghymru bydde chi'n disgwyl iddi hi fod ar frig yr agenda newyddion bob bwletin o hyn allan. A fyddech chi'n cael stori 'human interest' (hyd yn oed yn un trist a difrifol fel y llanc a'r Ci) yn brif stori newyddion deg BBC 1 wythnos cyn Etholiad Cyffredinol Prydeinig? Wrth gwrs ddim. A dyna brofi fod BBC Cymru yn trin Cymru fel cenedl is-raddol felly mae'r BBC, gellid dadlau, yn uniongyrchol yn gyfrifol am danseilio Cymru fel cenedl, yn euog o danseilio yr etholiadau yma yng Nghymru ac yn cyfrannu yn uniongyrchol at y diffyg diddordeb yn yr etholiad.

Nawr dwi'n gallu dychmygu Vaughan a Betsan yn rhuo wrth ddarllen hwn a dweud; 'Ond Rhys, yn dilyn Wales Today roedd rhaglen hanner awr, 'Dragon's eye', yn sôn am yr etholiad!'. Cywir, ond dydy hynny ddim yn cyfri – y gwir amdani yw taw dim ond anoracs fel fi (a chwithau sy'n darllen y Blog!) sy'n gwylio rhaglenni fel Dragon's Eye ac fe fyddwn ni'n mynd allan i bleidleisio beth bynnag! Ond mae pawb (wel mwy o bobl llawr gwlad beth bynnag) yn gwylio Wales Today felly dyna'r lle i roi sylw i'r etholiad yn enwedig wrth ystyried mai dim ond wythnos sydd i fynd.

Dwi'n meddwl fod y Western Mail yn rhoi sylw da i'r etholiad gyda 3 neu 4 tudalen bob diwrnod ers rhyw bythefnos a stori tudalen flaen bron a bod bob diwrnod. Calonogol oedd clywed y newyddion heddiw fod pethau yn edrych yn dda i'r BYD ac eu bod nhw wedi cyhoeddi ble fydd y pencadlys – yn Machynlleth. Bydd y BYD yn cynnig darn arall i'r jigso sydd dan drafodaeth yn y postiad yma.

Felly y neges yw hyn: BBC Wales – beth am drin newyddion Cymru fel newyddion cenedlaethol nid newyddion rhanbarthol o fewn Prydain?

Fodd bynnag 'dy ni Flogwyr yn gwybod yn iawn mai Blogiau yw'r ffordd ymlaen beth bynnag.

3 comments:

Nwdls said...

Nid dim ond BBC Wales. Doedd dim byd ar Newyddion S4C chwaith yn ystod y bwletin 9. Cywilyddus.

Aled Wyn said...

Cytuno 'da ti Rhys. Nid yn unig y BBC. Mae blydi ITV Wales am 6 o'r gloch yn diawlod am hyn. Wrth i ymgyrch yr etholiad dechrau yn go iawn rhoddwyd 5 munud iddo ar y newyddion ac yna mynd ymlaen i gwneud LIVE feature i rhyw blydi garden centre yn son am pa farbeciw bydd y gorau yn y tyewydd neis!!! Mid newyddion dylid galw hwna! Mae e mwy fel lifestyle magazine ar y teledu! (Rant drosodd)

caronpr said...

Pam ddylai rhaglenni/papurau newyddion 'cenedlaethol' boeni am roi sylw i hyn pan nad yw rhaglenni Cymru ei hunan yn gwneud? Siomedig iawn.