29.4.07

Sadwrn Tawel

Maen bnawn Sadwrn cynnes tesog yma yn Aberystwyth. Wedi bod yn brysur yn rhoi un o daflenni Elin Jones, code name 'momentwm', allan penwythnos yma. Fuom ni yn fy mhentref i, Comins Coch, neithiwr ac hefyd draw yn Llanilar. Ar fin gadael yn awr i wneud rhan o Bow Street, un o faes drefi mwyaf Aberystwyth. Es i draw i swyddfa'r Blaid yn gynt i gael cyfarwyddyd ac mi roedd Dogfael yna yn mewnbynnu y canvas returns i'r meddalwedd Treeware. Holodd Dogfael os oeddwn am flogio yn fyw ar noson y canlyniadau – doeddw ni ddim wedi meddwl am y peth ond wedi ystyried maen syniad cwbl wych! Ta-beth, mae pethau ar y cyfan yn dawelach heddiw a byddan nhw eto fory maen siŵr. Wrth i bethau dwymo eto fore Llun maen debyg bydd yna rywbeth difyrrach na'r monolog diflas hwn i flogio amdano.

No comments: