6.5.07

Canlyniadau a Dadansoddi - I

Talodd yr holl waith caled yng Ngheredigion ar ei ganfed i ni felly. Yn y diwedd doedd hi ddim hyd yn oed yn agos gyda Elin yn ennill bron i 4,000 o fwyafrif dros John Davies y Rhyddfrydwr. Roedd fy narogan na fyddai y Dem. Rhyddion yn llwyddo i ail-adrodd a gwella ar eu swing yn 2005 yn gywir! Pleser o'r mwyaf hefyd oedd clywed canlyniad Llanelli, nid yn unig i Helen Mary ennill ond fe enillodd hi'n dda gyda mwyafrif o yn agos i 4,000 hefyd. Yr un oedd y stori yn Aberconwy, mwyafrif ddim mor fawr ond fe arweiniodd Gareth Jones ni i fuddugoliaeth serchus a haeddiannol yn y sedd newydd honno a rhoi cic ym mhen ôl y Ceidwadwyr Cymreig hunangyfiawn drwy i Aberconwy wrthod eu rising star nhw Dylan Jones Evans.

Yn bersonol gwireddwyd bron a bod pob un o fy ngobeithion i am yr etholiad yma sef cadw'r seddi oedd ganddom ni, ennill Llanelli ac Aberconwy ac ar noson dda ennill Gorllewin Caerfyrddin. Yn anffodus collodd John Dixon allan yn y ras tri ceffyl yng Nghaerfyrddin ond mae wedi gosod sylfaen gref ar gyfer tro nesaf. Sypreis bach annisgwyl i'r noson oedd gweld ethol Mohammad Asghar i Blaid Cymru yn rhestr rhanbarth y De Ddwyrain – dwi'n meddwl ei bod hi'n arwyddocaol ac yn arloesol taw Plaid Cymru sydd wedi rhoi y sedd gyntaf i rywun o dras Ethnig. Mae hyn hefyd yn rhoi twist diddorol i'r ddarlith fyddai'n traddodi nos Fercher ar y tesun 'Plaid yn uno – crefydd yn gwahanu'.

Yr uni gbeth siomedig am y canlyniadau oedd i Lafur ddod allan ohoni yn weddol yn yr ystyr nad oedd eu perfformiad nhw yn haeddu y 26 sedd sydd ganddyn nhw. Roedden nhw yn tu hwnt o lwcus mewn sawl etholaeth ac nhw wnaeth elwa o'r ffaith fod sawl etholaeth yn ras tri ceffyl – pe tae mwy o'r etholaethau ymylol yn ras dwy geffyl fel ag yr oedd hi yng Ngheredigion dwi'n tybio y byddai y Blaid Lafur wedi colli tipyn trymach. Os am gael Llafur allan yn yr etholiad nesaf efallai y bydd rhaid i'r gwrthbleidiau ddod i ryw gonsensws rhyngddynt o pwy sy'n cael herio Llafur ym mhle oherwydd drwy gael Plaid a'r Ceidwadwyr (a'r Dem. Rhyddion mewn llefydd fel Casnewydd ac Abertawe) yn herio Llafur yn yr un etholaethau maen nhw'n gadael i Lafur aros mewn.

No comments: