6.5.07

Canlyniadau a Dadansoddi - II

Dyma restr o'r etholaethau hynny lle tybiaf y bu i Lafur aros mewn dim ond oherwydd fod y bleidlais yn eu herbyn wedi ei rannu:

Delyn
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 511 o ganlyniad i'r Bleidlais Geidwadol/Dde yn cael ei rannu rhwng y Ceidwadwyr (6,996) a UKIP (1,318).

Gwyr
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 1,192. Ceidwadwyr (8,214) ddim wedi gallu cipio oherwydd fod pleidlais Plaid Cymru (5,106) yn y drydedd safle wedi profi i fod yn gryf hefyd.

Gorllewin Abertawe
Llafur yn cadw gyda mwyafrif o 1,511. Eto yn elwa rhwng ras rhwng y pedwar prif blaid tro hwn gyda gweddill y bleidlais yn cael ei rannu rhwng y Dem. Rhyddion (5,882), Ceid (4,379) a PC (3,583)

Bro Morgannwg
Fel Delyn, Llafur wedi cadw'r sedd gyda mwyafrif o 83 dim ond oherwydd fod y bleidlais Geidwadol/Dde wedi hollti rhwng y Ceidwadwyr (11,432) a UKIP (2,310)

De Caerdydd a Phenarth
Llafur yn cadw yn rhydd rhag her oherwydd fod gweddill y bleidlais wedi ei rannu rhwng y Ceidwadwyr a'r Dem. Rhyddion.

Dwyrain Casnewydd
Llafur yn cadw yn rhydd rhag her (er fod y mwyafrif i lawr i 875 yn unig) oherwydd fod gweddill y bleidlais wedi ei rannu rhwng y Ceidwadwyr a'r Dem. Rhyddion.

Yr unig etholaethau sydd bellach yn cynnig ras draddodiadol dwy geffyl ydy'r canlynol:

Ceredigion
PC a Dem. Rhydd

Brycheiniog a Maesyfed
Dem. Rhydd a Ceid

Dyffryn Clwyd
Llaf a Ceid

Delyn
Llaf a Ceid

1 comment:

Tortoiseshell said...

Diddorol am Gwyr - bu Plaid Cymru'n herio yma yn 1999.

Beth mae Gwyr (a seddi eraill) yn dangos yw bod Ceidwadwyr a fu gynt yn aros draw o etholiadau'r Cynulliad bellach yn fodlon troi mas i fotio.

Peth da i ddemocratiaeth - ond rhwystr arall i Blaid Cymru - fel yng Ngorllewin Caerfyrddin y tro hwn.

(Sylwer hefyd ar bleidlais UKIP yng Ngwyr - rwy'n amau mae UKIP, a nid PC, a fu'n rhwystr i'r Ceidwadwyr rhag cipio sedd Edwina Hart).