Fy Etholiad i
Yn wahanol i lawer o flogwyr sy'n dweud eu dweud ond yn gwneud dim byd mi fuesi yn go brysur yn ymgyrchu ar droed yn ogystal ag yn y cyber fyd dros gyfnod yr etholiad ond yn ystod yr ymgyrch etholiadol roeddwn ni'n gyndyn o rai manylion y gweithgareddau yr oeddwn ni'n rhan ohonynt rhag i'r Dem. Rhyddion gael gormod o wybodaeth am natur a maint ymgyrch y Blaid yng Ngheredigion. Ond nawr fod y cyfan drosodd dyma adrodd peth o'r hanes. Rhwng y dydd Sadwrn olaf (Ebrill 29) a cau y blychau am 10pm nos Iau (Mai 1) roeddwn wedi gyrru 550 o filltiroedd ac maen debyg mod i wedi gyrru cymaint a hynny eto yn y dair wythnos cyn yr wythnos olaf. Dyma'r pentrefi gafodd eu blitzio gan A-Team dosbarthu Plaid Cymru yng Ngheredigion gyda Chapten Machreth a Cadfridog Llwyd:
Pontarfynach x2, Cwm Ystwyth x2, Ysbytu Ystwyth x2, Llanafan, Pont Rhyd y Groes x2, Cnwc Coch, Llanfihangel y Creuddun, Trawsgoed, Gogledd Aberystwyth, Bronglais x3, Rheidol x2, Penparcau x3, Llanilar x2, Waunfawr, Bryncastell, Tal-y-Bont, Commins Coch, Llanbadarn x2, Aberteifi, Llechryd, Llangwyryfon x2, Trefenter, Bethania x2, Bwlchllan, Blaenpennal, Bontnewydd, Joppa x2, Capel Bangor, Goginan, Ponterwyd, Capel Seion.
Ar fore'r etholiad llwyddodd 13 o fyfyrwyr i ddosbarthu'r daflen 'Bore Da' rhwng 6am a 10am i'r holl Wardiau canlynol – Bronglais, Gogledd Aberystwyth, Rheidol a 2 ward yn Penparcau! Gwallgo!
Dyma rai o'r arwyr fu'n cynorthwyo:
Lois, Siwan a Branwen
Meleri, Leri a Meleri (i know!)
Rhodri, Gwenno a Dereg
Beth, Elinor ac Elen
Fe aeth yr ymgyrchu a ni i lefydd go diarffordd:
Ar ben mynydd ger Trefenter
Llyn Syfaddan
Defaid ym Mhonterwyd, hen diriogaeth Geraint Howells
Ymweld a'r Baracs ym Mhonterwyd
Ffermdy fy hen weinidog, Ifan Mason Davies, yng Ngoginan
Ac mae'n rhyfeddod mai dim ond dwy a drodd ar eu pigwrn yn ystod yr ymgyrch dyma brawf o anaf un ohonynt wedi i giat drom gau ar ei choes – mae Menna dal i ddioddef druan – battle scars:
Ac yn olaf dau lun o noson y canlyniadau, y cyntaf o'r Cwps a'r ail adref yn nhŷ Menna:
Un peth a'm trawodd i am yr ymgyrch oedd bod merched llawer mwy parod i ddod allan i ymgyrchu gyda ni na bechgyn. Chware teg iddyn nhw yn wir! Tybed os byddai hi'n wahanol os byddai ymgeisydd y Blaid yn ddyn? "na bydde hi ddim" meddai Menna.
Roedd hon yn ymgyrch sylweddol a phroffesiynol gyda'r Blaid yng Ngheredigion – degau ar y tîm ymgyrchu yn gwneud tipyn o bopeth a'r cyfan yn cael ei gydlynu gan Morgan Lloyd yn y swyddfa – gwrogaeth iddo. Pan anfonodd John Davies a'r Democratiaid Rhyddfrydol lythyr at bob etholwr yn y dyddiau olaf gyda stamp dosbarth cyntaf arno roedd hi'n amlwg nad oedd peirianwaith y Dem Rhyddion yng Ngheredigion yn medru cystadlu gydag un y Blaid.
6 comments:
haha, llunie doniol OND, sailli credu bo' ti 'di sillafu Comins Coch (UN 'M') yn anghywir - NIN'N BYW 'NA RHYS!!!!
Difyr iawn. Yn dod ag atgofion o 1992 yn ol :-)
O.N. wedi sgrifennu rhywbeth newydd am grefydd ar y blog...
Llyn Syfaddan? Jiw, jiw, beth oeddet ti'n neud, yn canfasio dros Elin draw yn sir Frycheiniog Rhys bach?
mae'r llunie yn edrych fel bo chi gyd di cael amser gret- sef holl bwrpas ymgyrchu! Rhaid i'r ymgyrchu barhau nawr...ymgyrch i ennill Cyngor Ceredigion a'r sedd Seneddol i ddod.
Pa lyn oedd e te? Erm...
Post a Comment