10.5.07

Colofn Ciaran Jenkins yn Golwg


Colofn dda newydd yn Golwg heddiw, colofn gan Ciaran Jenkins o Ferthyr. Mae'n frawd i Bethan Jenkins aelod newydd Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru ac dwi'n amau ei fod yn dod i ddiwedd ei gwrs yn y Coleg Newyddiadurol yng Nghaerdydd a chyn hynny graddiodd o Gaergrawnt neu Rhydychen (ddim yn cofio pa un!)

Mae ganddo flog Saesneg yma. mae'r blog yn un treiddgar a difyr iawn. Fodd bynnag dwi a sawl un arall yn y rhithfro wedi siomi gyda Golwg am groesi'r ffordd a chynnig colofn i flogiwr Saesneg – does dim bai ar Ciaran o gwbl am hyn; pe bai'r Western Mail yn cynnig colofn Saesneg i mi wrth gwrs y baswn ni'n derbyn. Ond mae gweld Golwg yn cynnig colofn i Ciaran yn slap yn wyneb pawb sydd wedi bod yn ddiwyd yn cynnal blogiau Cymraeg ers blynyddoedd bellach – lle mae'r gydnabyddiaeth Golwg? Gan fod Ciaran, bid siŵr, yn cael mymryn o bres prin y wasg Gymraeg bellach dwi'n gobeithio y gwnaiff wrogaeth a hi drwy ddechrau blogio'n Gymraeg yn awr.

Rwy'n ddigon o ddyn i gyfaddef fod yna elfen o eiddigedd ynghlwm wrth y gwyn (fe fydd rhai wedi sylwi fod fy ngholofn gerdd yn Barn wedi cael mynd – 'rhy hir' yn ôl y Golygydd newydd ac am gael mwy o bethau pytiog yn lle) yma ond mae yna ddicter hefyd gyda Golwg am edrych heibio'r gwaith diwyd y mae blogwyr Cymraeg wedi gwneud ers blynyddoedd ac yna cynnig colofn i flogiwr Saesneg.

2 comments:

Blamerbell said...

Mae dy paragraff cyntaf yn gwneud synnwyr o leiaf:)

Yr unig peth sy'n bwysig yw bod y colofn yn "dda".

Dyna dwi'n poeni amdano!

Beth am gwyno i Betsan Powys am y ffaith ei bod hi'n gohebu trwy'r Gymraeg ond yn blogio yn Saesneg??

Os ydyn ni am gael Cymru deinamig a dwy-ieuthog, rhaid i ni erfyn pobl i weithtio trwy gyfrwng y dwy iaith . Yn delfrydol, dylai fod dim siwt beth a newyddiadurwr 'Cymraeg' a newyddiadurwr 'Saesneg'. Mae'r ffaith bod pobl dal yn gwneud y gymhariaeth yn dangos pa more bell sydd 'da ni i fynd.

Mei said...

Does na'm llawer o flogwyr Cymraeg o'r un safon a Blamerbell yn anffodus (hyd y gwn i).

Gelli di enwi rhai a ddylai wedi cael eu hystyried?