Clymblaid Enfys: Pleidwyr 'llawr gwlad' yn gymysg eu barn
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe drodd coffi ar ôl cwrdd fore Sul yn sesiwn drafod gwleidyddiaeth, yn anffurfiol beth bynnag. Oherwydd y datblygiadau diddorol does dim taw ar y sgwrsio am helyntion Plaid Cymru a bore ma ces i fy nghorneli gan un fam ifanc; “Beth yw hyn am Blaid Cymru yn rhoi pŵer i'r Ceidwadwyr?” Co' ni off. Roedd hi yn grac iawn ac yn dweud na fyddai hi'n pleidleisio i'r Blaid eto pe tase y glymblaid enfys yma yn cael ei ffurfio. Yn fwy na hynny adroddodd hi stori am ei rhieni yng nghyfraith a wnaeth bleidleisio i'r Blaid am y tro cyntaf erioed eleni, cam mawr oherwydd eu bod nhw'n hen Lafurwyr mawr ac wedi pleidleisio Llafur trwy eu bywydau hyd eleni. Roedd hi'n dweud y bydden nhw yn wyllt gacwn a byth yn ymddiried pleidlais i'r Blaid eto petaent i roi pŵer yn nwylo'r Ceidwadwyr.
Ro ni'n ceisio ei hargyhoeddi hi fod Llafur ddim gwell, os nad yn waeth, na'r Ceidwadwyr bellach; ond doedd dim yn cydio. Dywedais wrthi hi nad oeddwn ni'n cofio'r 80au (er mod i'n llawn ddeall beth ddigwyddodd) ac o ganlyniad roeddwn ni'n medru edrych ar y ddadl Ceidwadwyr Vs Llafur heb unrhyw ragfarn 80au aidd.
Fe siglodd y sgwrs fy ymddiriedaeth yn y syniad o glymblaid enfys do, ond yn hytrach na rhoi mewn tybiaf mai y ffordd ymlaen yw argyhoeddi pobl Cymru mai dim ond fel hyn allwn ni balu ymlaen – am y tro beth bynnag. Hefyd rhaid pwysleisio mai nid y Ceidwadwyr fyddai'n arwain y llywodraeth – Plaid Cymru byddai'n arwain y llywodraeth a Cenedlaetholwr fyddai'n Brif Weinidog. Dyna oedd yr apêl i gyd gapelwr arall bore ma, Yr Athro Bobi Jones, roedd ef yn deall yr hang-ups am roi peth pŵer i'r Ceidwadwyr ond roedd ef yn gweld cael Pleidiwr fel Prif Weinidog, yn wir arweinydd y genedl, yn gyfle rhy dda i basio heibio.
Er yn deall consyrn real y fam ifanc dwi dal yn ffafrio arwain gyda'r Ceidwadwyr oddi tano i ni na bod oddi tan Lafur a nhw yn arwain. Ond rwy'n ymwybodol iawn fod llawer o waith argyhoeddi mynd i orfod bod dros y bedair blynedd nesaf os am osgoi dial caled gan y Blaid Lafur yn yr etholiadau nesaf.
1 comment:
Sentiments tebyg iawn dwi'n gael gan yr hogan 'ma - byddai hi a'i theulu yn ei chael yn anodd iawn pleidleisio i'r Blaid eto os ant i glymblaid efo'r Ceidwadwyr er eu bod wedi bod yn Bleidwyr erioed. Ac ie, yr hyn fydden ni yn ei wfftio fel hang-ups 8oaidd sydd tu ol i hynny, er ei bod yr un oed a ti Rhys yn wir. Y gwhaniaeth wrth gwrs ydi ei bod yn dod o gymuned gyn-lofaol ac yn blentyn yn y cyfnod hwnnw wedi 1985 pan oedd pethau ar eu mwyaf digalon yn yr ardaloedd hynny. Mae'n hawdd i ni o'r Gymru wledig anghofio pa mor ddwfn ydi'r graith yma yn 'psyche' y bobl yma ac er fy mod i yn bersonnol yn gefnogol i'r syniad o glymblaid enfys, dwi wir yn pryderu am yr effaith ar ragolygon hir-dymor y Blaid, a nid dim ond yn y Cymoedd bondigrybwyll. Yn sicr mae'n gambl, ond dwi'n ofni nad yw rhai yn sylwi gymaint sydd yn y fantol. Os aiff pethau o chwith, byddwn yn rhoi Cymru yn ol yn nwylo Llafur am genhedlaeth arall.
Post a Comment