21.5.07

Moesoldeb Clymblaid Enfys: mewn trwy'r drws cefn?

Dwi wedi bod yn pwyso a mesur oblygiadau moesol clymbleidiau enfys. Waeth i ni fod yn gwbwl onest fod yna elfen o “mewn trwy'r drws cefn” ynghlwm wrth glymblaid enfys. A oes gan glymblaid enfys fandand gan yr etholwyr o gwbl? Ond wedyn a oes gan lywodraeth leiafrifol fandad gan yr etholwyr? Cwestiynau dyrys yn wir. Dyma set o graffiau pei sy'n dangos sut mae seddi'r Cynulliad wedi ei dosrannu. Y Blaid Lafur yn ddigon clir yw'r blaid fwyaf felly onid hwy sydd ar mandad?


Ond fel y gwelir yn yr ail graff mae gan yr enfys fwyafrif cyffredinol yn y Cynulliad felly onid hwy sydd a'r mandad? Gellid ennill y ddadl foesol yma o bosib.


Ond wedyn beth am yr Alban, dyma sut mae'r seddi wedi ei rhannu allan. Yr SNP yw'r blaid fwyaf o drwch blewyn felly maen rhaid mae nhw sydd a'r mandad siŵr iawn?


Ond wedyn eto yn yr ail ddrafft onid y glymblaid enfys gwrth-SNP, gwrth-Annibyniaeth sydd a'r fandad mwyaf? Gellid ennill y ddadl foesol yma hefyd!


Felly o gymharu sefyllfa Llafur yng Nghymru gyda sefyllfa'r SNP yn yr Alban gellid gweld dau ochr y geiniog i fandad gyfiawn, ai peidio, clymblaid enfys. Yr unig beth sy'n sicr yw diffyg mandad Llafur i lywodraethu yn hegomonaidd bellach yng Nghymru a'r Alban. Pinau a ydy oes mandad i Lywodraeth Enfys wedi cyraedd ai peidio - dwi ddim yn siwr.

7 comments:

Mr Gasyth said...

Y siart pei fuase'n dnagos y fandad dros enfys lorau fuae un yn dangos canran y pleidleisiau!

Rhys Llwyd said...

cytunaf! Ond doeddw ni methu canfod y ffugurau hynny ar y we yn nunlle!

Guto said...

Y gwahaniaeth amlwg rhwng Cymru a'r Alban yw fod y tair plaid heblaw Llafur yn Nghymru yn gallu (yn ol pob son) dod i gytundeb i gydweithio, tra nad yw'r pleidiau heblaw'r SNP a'r Gwyrddion yn Alban yn gallu dod i fath gytundeb.

Felly y grwp mwyaf sydd wedi dod i gytundeb yn yr Alban yw'r SNP a'r Gwyrddion tra'r grwp mwya sydd (yn ol pob golwg) am ddod i gytundeb yng nghymru ydi'r Enfys.

Helen said...

Dros y chwith, rywsut neu'i gilydd, y mae'r mwyafrif helaeth o'r Cymry wedi pleidleisio (o blith y rhai a ymdrafferthodd i wneud hynny), felly llywodraeth o'r chwith, sef o leiaf cytundeb (neu glymblaid, gorau oll) rhwng Llafur a Phlaid Cymru ddylai gymryd yr awenau. Cei di ddarllen y consesiynau y dylai'r Blaid ofyn amdanynt ar flog Vaughan.

Gareth said...

Rhys, mae canrannau'r pleidleisiau fan hyn. Sori am y Saesneg; dwi'n siwr fod fersiwn Gymraeg i gael yn rhywle.

bethan said...

bydde 'trish' byth yn mynd mewn i glymlaid da'r toriaid, rhys.

Alwyn ap Huw said...

Pwrpas datganoli yw gwahaniaethu. Nid gwahaniaethu rhwng Cymru a Lloegr, neu rhwng yr Alban a Lloegr yn unig ond gwahaniaeth rhwng sefyllfa'r Alban a sefyllfa Cymru, hefyd. Ymladdwyd yr etholiadau, gan yr holl bleidiau (yn hollol gywir) ar bynciau a sefyllfaoedd sy'n gwahanu Cymru a'r Alban. Does dim rhaid, o dan Ddatganoli, i Blaid Lafur Cymru ymateb yn yr un modd i faterion datganoledig ac y mae Plaid Lafur yr Alban, os bydd anghenion y ddwy genedl yn wahanol. Yn sicr dwy Blaid wahnanol, annibynol, yw'r SNP a PC.

Yr hyn a gynigwyd i bobl yr Alban oedd dewis rhwng yr SNP a Llafur, pleidleisiodd y bobl, a'r SNP a orchfygodd. Mae gan yr SNP, gan hynny, yr hawl foesol i lywodraethu fel llywodraeth (lleiafrifol) yn yr Alban.

Roedd y dewis a osodwyd o flaen pobl Cymru yn ddewis gwahanol - Llywodraeth Lafur mwyafrifol neu lywodraeth, (yn ôl y Blaid Lafur )rag -tag o Genedlaetholwyr, Torïaid a Rhyddfrydwyr. O gael y dewis pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y rag tag - ble mae'r cwestiwn moesol?