24.5.07

Democratiaid Rhyddfrydol Ystyfnig

Mae'r blog wedi bod yn dawel ers y penwythnos tra mod i wedi bod fyny ym Mangor yn cyfarfod fy nhiwtor a hel rhyw bethau o'r llyfrgell ar gyfer gwaith y mis neu ddau nesaf. Fodd bynnag dydy gwleidyddiaeth Cymru heb fod yn ddistaw. Mae pob plaid wedi rhoi'r gorau i drafod gyda Llafur ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Enfys i'w weld fel realiti posib ond heno fe drodd pethau yn flêr wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol dynnu allan o'r Glymblaid Enfys. Fe allai hyn arwain Cymru i fewn i argyfwng cyfansoddiadol.

Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol dyfu fyny a sylwi mai gwleidyddiaeth glymbleidiol fydd gwleidyddiaeth ôl-ddatganoledig yng Nghymru. A beth bynnag, does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o ddod yn brif wrthblaid heb sôn am arwain llywodraeth felly os ydy nhw yn gwrthwynebu clymbleidio a chydweithio gyda pawb a phopeth beth yw pwynt y Democratiaid Rhyddfrydol?

Fel ag y mae pethau ar hyn o bryd dyma sut, fe dybiaf eith y bleidlais ddydd Mercher yn y Cynulliad.

Llafur yn cynnig Rhodri Morgan fel Prif Weinidog
Plaid Cymru yn cynnig Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog

Rhodri Morgan: 26 (aelodau Llafur)
Ieuan Wyn Jones: 28/27 (aelodau Plaid Cymru, Ceidwadwyr a falle Trish)
Ymatal: 6/7 (Democratiaid Rhyddfrydol a falle Trish)

Oni bai i'r Ceidwadwyr gynnig Nick Bourne a phleidleisio amdano mi fyddai Ieuan Wyn Jones yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan ond, oherwydd ystyfnigrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol, dim mwyafrif. Oni bai fod trafodaethau nol mlaen rhwng Plaid a Llafur, Llafur a Dem Rhydd, neu'r Enfys bydd rhaid mynd am lywodraeth leiafrifol. Ydy llywodraeth leiafrifol Plaid-Ceidwadwyr yn bosib? Ar bapur ydy gan y byddai Ieuan Wyn Jones, o dderbyn cefnogaeth y Ceidwadwyr, yn cael mwy o bleidleisiau na Rhodri Morgan. Ond mewn realiti byddai hi dipyn cymhlethach.

Dyma yw penbleth.

Ond os oes yna unrhyw eiriau doeth i'w hadrodd rheini yw rhai blogiwr y BBC, Vaughan Roderick, sy'n gynyddol ollwng ei ddi-dieddrwydd (onid ydyw hi'n gwbl amlwg ei fod yn ysu am weld clymblaid Enfys?!) pan ddywedodd am benderfyniad y Plaid Cymru i droi cefn ar Lafur; “Pan oedd yn rhaid iddi ddewis rhwng y "prosiect cenedlaethol" a chadw ei sosialaeth yn bur doedd ond un dewis mewn gwirionedd.” Amen i hynny.

1 comment:

gwe said...

Go brin. Nid argymell yr Enfys oedd Vaughan ond dweud yr amlwg - roedd y demtasiwn yn ormod...

Ond - gan mai hunan-lywodraeth yw'r nod, dylid fod wedi llyncu'r wermod a chydweithio a Llafur er mwyn sicrhau hynny, gan fod angen 2/3 o fwyafrif yn y Senedd cyn hyd yn oed son am refferendwm.

Roedd hi'n ddegawd yn rhy gynnar i'r Enfys - er mor glodwiw y cymhelliad.