Clymblaid: Atgyfododd
Fe fynychais gyngor cenedlaethol y Blaid ddoe gan gynrychioli Cymru x, adain ieuenctid Plaid Cymru. Mae trafodaethau mewnol y Blaid i'w cadw'n gyfrinachol felly byddai'n syniad da i mi barchu hynny rhag i mi gael fy esgymuno! Ond fe fedrai ddweud gymaint ag sydd wedi cael ei adrodd gan y BBC yn barod sef na drafodwyd clymblaid mewn manylder ac ni bleidleisiwyd ar y mater chwaith ond yn hytrach y bydd cyngor arall yn cyfarfod o fewn y misoedd nesaf i drafod y mater yn drylyw.
Roedd ysbryd y cyfarfod ddoe yn drydanol ac roedd yr arweinwyr fel petaent, a dwyn idiom Saesneg, ar gwmwl naw. Roedd arddeliad a hyder nad wyf erioed wedi gweld o'r blaen gan arweinwyr cenedlaetholgar yn eu hadroddiadau oedd yn ymddangos mwy fel areithiau diwrnod ar ôl ennill rhyfel! Ac roedd geiriau aelodau llawr gwlad yn galonogol ac yn arwrol hefyd. Fe gaethom ni apologia Sosialaidd o blaid y ddogfen glymblaid (medrwch ei is-lwytho fan hyn) gan un arweinydd amlwg ac i mi dyna selio'r mater – rwy'n credu yn y ddogfen ac rwy'n credu yn y Gymru newydd all ddod o ganlyniad iddo. Mi fydd yr wythnosau nesaf yn rai diddorol a “hanesyddol”, gair o bosib gafodd ei or-ddefnyddio ddoe.
Ar nodyn ysgafnach, braf oedd gweld Celtic yn derbyn tlws cwpan pêl-droed yr Alban ddoe gan neb llai na Alex Salmond – arweinydd y genedl, arweinydd cenedlaetholgar – roedd yn wen o glust i glust.
4 comments:
Da clywed am atgyfodiad yr Enfys...newyddion da i Gymru gyfan!
Roeddwn i'n meddwl bod trafodaethau'r Cyngor Cenedlaethol yn gyfrinachol Mr Llwyd.
Wrth gwrs fod trafodaethau yn gyfrinachol Menai - beth dwi wedi dweud ar fy mlog nad sydd wedi ei adrodd gan y BBC eisoes?
Dim, am wn i.
Ond pam cadarnhau'r hyn mae'r Bib yn ei honni?
Post a Comment