29.5.07

ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.


Tynodd Vaughan Roderick sylw ar ei flog rhai wythnosau yn ôl at y ffaith y gallai holl arweinwyr y DG fod yn feibion i weinidogion Presbyteraidd cyn bo hir. Alex Salmon ac Ian Paisly eisioes yn arweinwyr ac fe fydd Gordon Brown, y presbyter arall o'r Alban yn ymuno a nhw dros yr haf ac fe ddylai Ieuan Wyn Jones ymuno a hwynt yn fuan hefyd. Pa le gwell i droi felly am ddehongliad o'r gair 'enfys' nag at 'Geiriadur Charles' – Geiriadur Beiblaidd tad Eglwys Bresbyteraidd Cymru Thomas Charles o'r Bala. Doedd Thomas Charles yn fawr o wleidydd; ond yn ei ddydd roedd cynhyrchu y fath gampwaith llenyddol a diwinyddol yn y Gymraeg yn weithred wleidyddol yn ei hun (er na fyddai Thomas Charles ei hun yn sylweddoli hynny ar y pryd).

"ENFYS, (en-bys) Gr. ιρις; bwa gwlaw. Edr.
BWA. - 'Ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-fainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus. - 'Ac enfys oedd ar ei ben.' Dat.4.3. A 10.1. Cylch yr enfys oedd yn y ddau le hyn, mae yn amlwg, ac nid hanner cylch, fel bwa gwlaw. Yr oedd o amgylch yr orsedd-fainc, ac ar ben yr angel, fel coron oddi amgylch iddo. Yr oedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus, maen gwerthfawr o'r lliw gwyrdd mwyaf hyfryd. Cawn y cyffelyb olygiad yn Ezec. 1. 28. 'Fel gwelediad y bwa a fydd y y cwmwl ar ddydd gwlawog, fel hyn yr oedd gwelediad y dysgleirdeb o amgylch.' Gwelediad yr enfys o amgylch yr orsedd, ac ar ben angel mawr y cyfammod, a'r lliw gwyrdd hyfryd, a arwydda fod Duw yn gweithredu yn ei gyfammod grasol, yn ei holl oruchwyliaethau tu ag at ei eglwys. Cyfamod hedd yw. Fel y gwyrdd, y mae yn hyfryd yr olwg arno i Dduw a'i bobl, ac yn dragwyddol yn ei barhad. Y mae yn gylch crwn, ac yn cynnwys Duw a'i bobl mewn cymmod ac undeb anwahanol, a gogoniant y naill, ac iechydwriaeth y llall, wedi eu sicrhau ynddo; ac y mae holl oruchwyliaethau Duw tu ag at ei eglwys, o fewn y cylch hyfryd a gogoneddus hwn. Gwel Coccejus, Vitringa, Cowper, Reader."


A oes i'r dehongliad uchod o'r gair 'enfys' unrhyw berthnasedd i ni yng Nghymru heddiw tybed?

No comments: