Manylion y Bleidlais Ranbarthol
Fe fuodd V. Roderick ddigon caredig i anfon data manwyl y bleidlais ranbarthol i mi. A hyd y gwn i dydy nhw ddim ar y we yn nunlle eto felly dyma nhw i chi (rhowch glec i'w gweld yn fwy a chliriach):
Rhanbarth y Gogledd
(Os byddai Aberconwy wedi mynd i'r Ceidwadwyr byddai Wigely yn saff o fod mewn)
Rhanbarth Canol a Gorllewin
(Os byddai John Dixon wedi ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin ni fyddai Nerys Evans wedi mynd mewn)
Rhanbarth De Orllewin
Rhanbarth De-Canol
Rhanbarth De-Ddwyrain
(Os byddai y Dem Rhydd wedi cipio sedd yng Nghasnewydd byddi Llafur yn ennill un yn ol ar y rhestr ranbarthol ac byddai'r Dem Rhydd yn colli un fan yna - ei harweinydd!)
Mwynhewch y cnoi cil!
2 comments:
Diddorol iawn tydyn, yn enwedig gweld fod rhan helaeth pleidleiswyr 'annibynnol' Islwyn a Merthyr hefyd wedi mynd i eraill ar y bleidlais rhestr - siwr buasai'r Blaid wedi gobeithio byddai mwy wedi dod atyn nhw.
Er gwybodaeth, 2,620 yw'r gwahaniaeth rhwng Dr Dai a cholli ei sedd - gan mai dyma faint yn fwy fyddai'r Ceidwadwyr wedi bod angen i'w guro i'r sedd restr ola na.
Yr hyn a'm synnodd i ydi pa mor lwcus oedd y Blaid i gael seddi rhestr yn y Gogledd a'r Canolbarth/Gorllewin. Dim ond o tua 400 pleidlais gafodd Janet ryder a Nerys Evans i mewn - bron i lafur gipio trydedd set yn y Canolbarth a'r Ceidwadwyr yn y Gogledd. Roedd hi o fewn trwch blewyn felly i fod yn Llafur 27, PC 13, Ceid 13.
Ti'n iawn, fe allai hi wedi bod mor wahanol. Ond eto ddim, oherwydd os byddai Llafur wedi colli seddi etholaethol roedd eu pleidlais nhw mor aruthrol o fawr mewn rhi llefydd (fel y De Ddwyrain) fel y buasen nhw yn ennill un sedd ranbarthol yn ôl yn syth
Post a Comment