5.6.07

Anglicaniaid yn Uchel - Anghydffurfwyr yn Dawel

Tawel a fu ac a fydd y blog yn anffodus. Newydd ddychwelyd o'r de ar ôl treulio cyfnod yn ardal Caerfyrddin a 'steddfod yr Urdd - llawenydd mawr oedd clywed fod Menna wedi dod yn drydydd yn y Goron! Dwi ffwrdd i Fangor am rai rai diwrnodau fory felly yn ceisio troi rhai pethau rownd gan mod i ond adre am noson felly dim amser i flogio'n iawn dim ond nodi mod i'n falch fod Barry Morgan wedi siarad allan ar ran yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn draddodiadol yr anghydffurfwyr sydd wedi bod yn flaenllaw yn wleidyddol ond lle oedden nhw heddiw yn cefnogi Barry Morgan? Pryd y cawsom ni ddatganiadau herfeiddiol am wleidyddiaeth a moesau ein cenedl gan ein eglwysi anghydffurfiol? Dowch laen ben bandits yr enwadau anghydffurfiol, Geraint Tudur (Annibynwyr), Ifan Roberts (Hen Gorff) a Peter Thomas (Bedyddwyr) - peidiwch a gadael i'r Eglwyswyr yma ddwyn eich mantell radical chi.

1 comment:

Alwyn ap Huw said...

A'i'r eglwysi anghydffurfiol sy'n dawedog neu a'i'r cyfryngau sydd yn eu hanwybyddu? Mae yna ryw duedd yn y cyfryngau Cymreig i ddilyn y drefn grefyddol Seisnig a chredu mai Archesgob Cymru yw pennaeth yr eglwys "gwladol" yn yr un modd ag y mae Archesgob Caergaint yn bennaeth ar Eglwys Wladol Lloegr.

Ar yr ychydig achlysuron imi fynychu Synod Cymraeg yr Eglwys Fethodistaidd gwnaed penderfyniadau o bwys ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol Cymru heb siw na miw amdanynt yn y wasg ar y radio neu'r teledu. Ond bydd newyddiadurwyr o'r holl gyfryngau Cymreig yn mynychu Synod yr Eglwys yng Nghymru.

Ar adeg y Pasg a'r Nadolig ceir yr un peth, son am neges y Pab, neges Archesgob Caergaint ac Archesgob Anglicanaidd Cymru ond dim crybwyll am unrhyw un o arweinwyr yr eglwysi anghydffurfiol dim hyd yn oed gair am Gytûn.

Bydda'n rhaid i Ifan Robert rhedeg trwy'r Senedd yn noeth lymun cyn i'r BBC cymryd y diddordeb lleiaf yn ei farn ef am y Cynulliad.