31.5.07

Cwmpawd Gwleidyddol: dwi dal ar y chwith - maen swyddogol!

Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd a'r wefan www.politicalcompass.org. Ar y wefan yma fe allwch chi ateb set o gwestiynau yna ar sail eich atebion maen cyfrifo lle ydych chi ar y spectrwm gwleidyddol chwith-dde ac awdurdodol-rhyddfrydol. Gan fod yr holl gwestiwn o leoli ideoleg a pholisïau gwleidyddol yn dysen boeth ers yr etholiad a'r Sosialydd mawr Adam Price yn dod i gytundeb ar agenda llywodraeth gyda'r Ceidwadwyr (do, fe ddaeth tro ar fyd) tybiais y byddai'n ymarfer da i mi ail wneud y prawf ar y wefan.

Ers i mi ddechrau yn y Brifysgol bron a bod bedair mlynedd yn ôl maen rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi teimlo fy hun yn symud rhywfaint i'r dde. Nid mod i bellach ar y dde ond fod fy chwithdod/sosialaeth wedi dod yn fwy pragmataidd fel yr esboniais yn fanwl yn y postiad yma. Yn eiddgar felly yr oeddwn ni'n disgwyl ymlaen i weld faint i'r dde yr oeddwn ni wedi symud. Gwnes y prawf yn wreiddiol fis Ebrill 2003 pan oeddwn dal yn ddisgybl ysgol. Wele y gymhariaeth ar y graff isod:

Dwi'n falch o fedru cadarnhau nad ydw i bellach 'ar y dde', er diddorol yw nodi mod i wedi symud fymryn i'r dde ac mod i wedi symud yn weddol i ffwrdd o ryddfrydiaeth galed (os oes yna fath beth a rhyddfrydiaeth galed – chydig bach o oxymoron yn tydy?). Diddorol byddai clywed beth ydych chi? Ac os gymeroch y prawf run pryd a mi yn 2003 faint o symud sydd wedi bod? Os nad ydych chi'n cofio eich sgor yn 2003 yna efallai eich bod chi'n un o aelodau'r maes a gyhoeddodd eich sgor fan yma neu fan yma.

Os bostiwch chi eich sgôr fel sylwad fe wnai eich ychwanegu i'r siart uchod. Byddai hi'n arbennig o ddiddorol pe tae Blogwyr o wleidyddion fel Glyn Davies neu Bethan Jenkins yn cyfranogi i'r prosiect.

9 comments:

Gwenno said...

Rhys ma'n un i'n debyg iawn i dy un di - ond smo 'na'n fy synnu i rhywsut!

Economic Left/Right: -5.38
Social Libertarian/Authoritarian: -2.97

Tortoiseshell said...

"Left libertarian" - yn tybio mae tua fan hyn byddai trwch aelodaeth y blaid.

G.B.E. said...

Economic Left/Right: 2.25
Social Libertarian/Authoritarian: 0.31

Sion Owain said...
This comment has been removed by the author.
Sion Owain said...

Economic Left/Right: -5.13
Social Libertarian/Authoritarian:
-1.44

Americanwr said...

Economic Left/Right: -1.13
Social Libertarian/Authoritarian: -2.21

Maen nhw angen pobl fel fi yn America!

Elain Llwyd said...

rhys, gymres i'r prawf am heddi, ac on i bron reit ar bwys 'Communism'....dylen i boeni??

Mr. Elis said...

Your political compass
Economic Left/Right: -3.50
Social Libertarian/Authoritarian: 0.77

fim cweit yn siwr be ma fen meddwl though

Ray Diota said...

Economic Left/Right:-4.88
Social Libertarian/Authoritarian:-4.36