22.6.07

Google yn anog boddi pobl!

Dwi wastad wedi gweld mapiau yn bethau difyr ac fe fedrai edrych ac astudio mapiau ac atlysau am oriau heb ddiflasu. Pan eich bod chi'n eistedd mewn llyfyrgell fel yr ydw i nawr a phennod o lyfr Geoffery Nutall yn dwyn y teitl 'The Principle of Fellowship' yn profi eich amynedd i'r eithaf mae bron a bod pob peth arall yn fwy difyr. Felly trwy rhyw ddirgel ffyrdd ces i fy hun ar wefan Google Maps yn arbrofi pa ffordd orau i deithio i Gaerdydd. Trwy Rydaman meddai Google. Beth am Aberystwyth i Fangor te? A dyma Google yn tybio mod i'n golygu sut ma' teithio o Aberystwyth i Fangor, UDA. Fe ddeallais eich bod chi i yrru i Ffrainc ac yna croesi'r Iwerydd o fan yna felly dyma fi'n edrych yn fanylach i weld o lle y byddech chi'n hwylio ac er mawr syndod i mi cyfarwyddyd Google ar gyfer cam 36 o'r daith oedd: “Swim across the Atlantic Ocean, Entering United States (Massachusetts)”

Dwi'n meddwl fod hyn yn wers i ni gyd – peidiwch a thrystio Google bob tro – gau broffwyd ydyw yn wir!

No comments: